Mae’r Cyngor wedi cychwyn rhaglenni codi tai newydd sbon ar raddfa fawr fydd yn darparu stoc o 1,000 o dai cyngor newydd erbyn Mai 2022.
Gan fod y Bwrdd Iechyd Prifysgol yn gwaredu safle Ysbyty Lansdowne, mae cyfle i gaffael safle datblygu i gefnogi cyflenwad o unedau tai fforddiadwy mewn ardal â galw mawr amdanynt.
Mae’r adroddiad Cabinet hwn yn pennu’r ystyriaethau o ran diwydrwydd dyladwy a chyfiawnhad ar gyfer y gefnogaeth i gaffael y safle a datblygu tai fforddiadwy.
Caiff y trafodiad ei gyflawni yn unol â Phrotocol Trosglwyddo Tir Llywodraeth Cymru.
Math o fusnes: Key
Statws: wedi'u gadael
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 07/06/2019
Angen Penderfyniad: 11 Gorff 2019 Yn ôl Cabinet
Prif Aelod: Yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau
Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau
Scrutiny Consideration: Amber/Ambr