Manylion y mater

Llety â chymorth i bobl ifanc - Anghenion Cymhleth

Mae gan y Cyngor y cyfle i ymrwymo i 'gytundeb tir' gyda Chymdeithas Tai Hafod (a elwir yn gytundeb bargen) ar gyfer adeiladu a chyflwyno 10 uned o fewn Hostel Pobl Ifanc, am bris cytunedig.

 

Mae Cymdeithas Tai Hafod yn ceisio cytundeb 'mewn egwyddor' y bydd y Cyngor yn llunio Pecyn Bargen ar gyfer y datblygiad yn amodol ar gytuno ar Benawdau Telerau. Yn ystod y cyfnod hwn os rhoddir penderfyniad mewn egwyddor, bydd Hafod yn prynu'r tir ac yn cyflwyno cais cynllunio ar gyfer y datblygiad.

 

Os bydd y cynllun yn mynd rhagddo, bydd Hafod yn rheoli'r prosiect ac yn llunio contract adeiladu gyda datblygwr ac yn trosglwyddo'r eiddo i'r Cyngor ar ôl iddo gael ei gwblhau, gyda’r holl osodiadau. Contract pris sefydlog fydd hwn a bydd Hafod yn rheoli pob agwedd ar yr adeiladu. 

 

Byddai'r Cyngor ond yn ymrwymo i becyn bargen ar yr amod bod Hafod yn berchen ar y tir, yn cael caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad derbyniol ac yn ddarostyngedig i gostau sefydlog, sy'n ddichonadwy i'r Cyngor o fewn ein model hyfywedd ariannol. 

Math o fusnes: Key

Statws: Argymhellion Cymeradwy

Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 07/12/2018

Angen Penderfyniad: 24 Ion 2019 Yn ôl Cabinet

Prif Aelod: Yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau

Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau

Scrutiny Consideration: Amber/Ambr