Penderfynodd y Cyngor Caerdydd, yn ei gyfarfod ym mis Mawrth 2018, ar brotocol ar gyfer Grwpiau Holl Bleidiau’r Cyngor gellir gweld hwn yma. Mae 3 Grŵp ar hyn o bryd, manylion fel a ganlyn:
Aelodaeth:
Y Cynghorydd Dilwar Ali – Prif Aelod
Y Cynghorwyr Bowden, Molik, Mackie, McGarry, McKerlich a Singh
Cylch Gorchwyl:Codi ymwybyddiaeth ac annog cyfrifoldeb ymhlith perchnogion cŵn yng Nghaerdydd (Cymru) er mwyn gostwng niferoedd yr ymosodiadau cŵn ar blant/oedolion mewn parciau/mannau cyhoeddus, baw cŵn ac achub anifeiliaid anwes er lles yr anifeiliaid.
(Cyflwynwyd system rheoli baw cŵn dan orchmynion diogelu mannau cyhoeddus drwy Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona 2014)
Dyddiadau’r Cyfarfod:
24 Mai 2018, 19 Gorffennaf 2018, 29 Tachwedd 2018 a31 Ionawr 2019Aelodaeth:
Y Cynghorydd Phil Bale – Prif Aelod
Y Cynghorwyr Ahmed, Boyle, Cunnah, De’Ath, Derbyshire, Henshaw, Lent, Simmons, a Williams
Cylch Gorchwyl: Bydd Gwydnwch Trefol yn canolbwyntio ar helpu Caerdydd i ddod yn ddinas mwy gwydn yn wyneb yr heriau corfforol, cymdeithasol ac economaidd sy’n effeithio ar ddinasoedd trwy’r byd mewn cyfnod o drefoli cyflym.
Dyddiadau’r Cyfarfod:
24 Mai 2018 a 19 Gorffennaf 2018
Aelodaeth:
Y Cynghorydd Jennifer Burke Davies
Cylch Gorchwyl:Diben y grŵp hwn yw rhoi gofod i fenywod yng Nghyngor Caerdydd i ddod ynghyd, mentora, rhwydweithio a manu hyder yn ei gilydd yn ogystal â’u hunain. Hefyd, cydweithio ar Bapurau Gwyrdd ynghylch sut y gall Cyngor Caerdydd wasanaethu menywod y ddinas orau trwy benderfyniadau polisi.
Bydd hwn yn gyfle i Aelodau Etholedig Benywaidd y Cyngor fynd i’r afael â pryderon ynghylch amrywiaeth a chynrychiolaeth mewn Llywodraeth Leol ac ymdrechu i argyhoeddi ein lleisiau fel bod benywod y dyfodol sy’n ystyried ymgeisio am swydd Llywodraeth Leol yn cael gweld bod ganddynt gynrychiolaeth, y cânt eu cynorthwyo a bod eu llais yn gryf.
Dyddiadau’r Cyfarfod:7 Rhagfyr 2017 a 2 Mai 2018 (canslwyd)