PENDERFYNWYD:
(1) cymeradwyo cyfrifiad sail dreth y Cyngor ar gyfer blwyddyn 2020/21;
(2) yn unol â’r adroddiad hwn ac yn unol â Rheoliadau Awdurdodau lleol (Cyfrifo Sail Dreth) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd, y swm a gyfrifwyd gan Gyngor Caerdydd fel Sail Dreth y Cyngor ar gyfer 2020/21 fydd 147,277;
(3) yn unol â’r adroddiad hwn ac yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sail Dreth) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd y swm a gyfrifwyd gan Gyngor Caerdydd fel Sail Dreth y Cyngor ar gyfer 2020/21 yn yr ardaloedd cymuned sy’n destun praesept fydd fel a ganlyn;
Llys-faen |
2,499 |
Pentyrch |
3,316 |
Radur |
3,841 |
Sain Ffagan |
1,592 |
Pentref Llaneirwg |
2,047 |
Tongwynlais |
820 |
(4) y trefniadau ar gyfer talu praeseptau yn 2020/21 i Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru i fod drwy randaliadau cyfartal ar ddiwrnod olaf pob mis o fis Ebrill 2020 hyd fis Mawrth 2021 a’r cynghorau Cymuned i fod drwy un taliad ar 1 Ebrill 2020, ac ar yr un sail a hwnnw a ddefnyddiwyd yn 2019/20 ac i’r awdurdodau praesepu gael eu hysbysu yn unol a hynny.