Mater - penderfyniadau

Clampio a symud cerbydau niwsans o'r briffordd

19/11/2018 - Clampio a Symud Cerbydau wedi'u Parcio'n Anghyfreithlon a Cherbydau heb eu Trethu o'r Briffordd a Thir Cyhoeddus

Eithrir Atodiad B yr adroddiad hwn rhag cyhoeddi oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth fel y disgrifir ym mharagraffau 14 a 21 rhannau 4 a 5 Rhestr 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   cymeradwyo'r polisi newydd ar gyfer clampio a symud cerbydau sy’n peri niwsans oherwydd parcio anghyfreithlon neu gerbydau heb dreth (atodiad 1)

 

2.   bod y Cyngor yn derbyn y grymoedd a ddatganolwyd ar Reoliadau Treth Car (Atal, Symud a Gwaredu Cerbydau) 1997.

 

3.   Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Cynorthwyol y Strydlun i arwyddo’r llythyr cytundeb rhwng DVLA a Chyngor Caerdydd (Partner Pwerau a Ddatganolwyd).