Ni fydd Atodiadau 1-3 yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym Mharagraffau 14 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
(1) dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a’r swyddogion perthnasol i archwilio’r amryw ddulliau sydd yn yr adroddiad hwn a'u cyflyno yng nghyfarfodydd y Cabinet yn y dyfodol ar gyfer gwneud penderfyniadau terfynol ar bob cyfle.
(2) dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a’r swyddogion perthnasol i sicrhau tenant ar gyfer yr Eglwys Norwyaidd, yn dibynnu ar ddatrys yn briodol unrhyw faterion sy'n berthnasol i statws bresennol yr Ymddiriedolaeth.