PENDERFYNWYD:
1. Awdurdodi swyddogion i ymgynghori ar gynigion i:
· Adnewyddu adeiladu Ysgol Uwchradd Cantonian gydag adeiladau newydd ar yr un safle gan ehangu’r ysgol o chwech dosbarth mynediad (6DM) i wyth (8DM) gyda darpariaeth chweched dosbarth ar gyfer 250 o ddisgyblion;
· Ehangu’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) ar gyfer dysgwyr â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistiaeth (CSA), dan fantell Ysgol Uwchradd Cantonian o 20 lle i 30 lle mewn adeilad pwrpasol yn adeiladau newydd yr ysgol;
· Trosglwyddo Ysgol Arbennig Woodlands i safle Doyle Avenue a chynyddu’r capasiti o 140 lle i 240 lle mewn adeilad newydd;
· Trosglwyddo Ysgol Arbennig Riverbank i safle Doyle Avenue a chynyddu’r capasiti o 70 lle i 140 lle mewn adeilad newydd.
2. Nodi y daw swyddogion ag adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad i gyfarfod yn y dyfodol er mwyn ceisio awdurdod i fynd ati i gyhoeddi cynigion yn unol ag adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.