PENDERFYNWYD: bod
1. dull Cymorth i Deuluoedd i'r dyfodol a nodir yn yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.
2. Yn unol â Fframwaith Cyllidebol y Cyngor, dylid ymrwymo gwariant hyd at £500,000 mewn perthynas â blynyddoedd y dyfodol er mwyn bodloni gofynion y gwasanaeth newydd a nodir yn yr adroddiad hwn.
3. Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol (yn unol â’i chyfrifoldeb statudol i sicrhau bod y gwasanaethau ataliol yn mynd ar ôl anghenion gofal a chymorth y boblogaeth) yn unol â’r Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, Cyfarwyddwr Addysg a Chyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau i gymryd y camau angenrheidiol i weithredu’r Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd Newydd.