PENDERFYNWYD:
(1) Nodi’r Gofyniad diweddaraf am Ostwng y Gyllideb gan £35.2 miliwn yn 2019/20;
(2) cytuno ar y cynigion arbedion y gyllideb fel y nodir yn Atodiad 2 fel Cynigion Arbedion Cyllidebol y Cabinet ar gyfer Ymgynghoriad;
(3) Nodi y bydd yr ymgynghoriad ffurfiol ar y gyllideb yn cychwyn ar 16 Tachwedd 2018 ac yn parhau tan 2 Ionawr 2019. Yna, bydd y Cabinet yn ystyried canlyniadau’r broses ymgynghori hon fel rhan o'i gynnig ar gyfer cyllideb 2019/20.
(4) Nodi y bydd y Prif Weithredwr fel Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig, yn cyflwyno’r holl ymgynghoriadau cyflogaeth statudol ac anstatudol angenrheidiol mewn cysylltiad â goblygiadau staffio'r cynigion.