PENDERFYNWYD:
1. cytuno ar ddechrau’r gwaith o ail-gaffael Fframwaith Adeiladu Cydweithrediadol (Sewscap3) Adeiladau Cyhoeddus ac Ysgolion, De-ddwyrain Cymru (fel y nodir yn yr adroddiad) a
2. dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol, mewn ymgynghoriad â’r Aelod cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Moderneiddio, i gyflawni’r holl agweddau ar gaffael , (gan gynnwys pennu’r fethodoleg werthuso, ac ychwanegu contractwyr llwyddiannus at y fframwaith) ac ar ôl hynny delio gyda gweithredu trefniadau’r fframwaith, gan gynnwys unrhyw faterion ategol sy’n gysylltiedig.