Dywedodd yr Arglwydd Faer fod hysbysiad o gynnig, wedi’i gynnig gan y Cynghorydd Jones-Pritchard a’i gefnogi gan y Cynghorydd Lancaster, wedi'i dderbyn i’w ystyried a’i gynnwys yn y Gwysion ar gyfer y cyfarfod. Derbyniwyd dau ddiwygiad i’r cynnig.
Rhoddodd yr Arglwydd Faer gyfle i’r Cynghorydd Jones-Pritchard gyflwyno’r cynnig fel a ganlyn:
Bod y cyngor hwn yn cydnabod y difrod mae plastigion gwastraff yn ei beri i’r amgylchedd byd-eang, yn cydnabod bod mesurau y gallwn eu cymryd yn awr i leihau neu roi terfyn ar ein cyfraniad at yr halogiad a’r difrod hynny ac ymrwymo i fod yn Ddinas Ddiblastig.
Mae’r Cyngor hwn wedi penderfynu dechrau’r broses i fod yn Ddinas Ddiblastig trwy:
· Gefnogi Arfordiroedd Diblastig, ymrwymo i ddewisiadau eraill nad ydynt yn defnyddio plastig a chefnogi mentrau diblastig yn y ddinas. Gosod esiampl dda ac arwain y ffordd drwy gael gwared â phlastigion defnydd untro o safleoedd y Cyngor, annog mentrau diblastig ac annog mannau eraill i gael gwared â phlastigion defnydd untro.
· Annog busnesau a manwerthwyr lleol i ymatal rhag defnyddio a gwerthu eitemau plastig defnydd untro, gan eu newid am ddewisiadau cynaliadwy amgen.
· Creu mannau cymunedol diblastig yn ein parciau, ein llyfrgelloedd, ein hybiau a’n canolfannau cymuned a hamdden.
· Gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod ysgolion, colegau a sefydliadau yn ddiblastig.
· Hyrwyddo neu drefnu digwyddiadau cymunedol i gael gwared â gwastraff plastig o’n harfordir a mannau eraill.
· Ceisio trefnu gr?p rhanddeiliaid â busnesau lleol a chynrychiolwyr cymunedol i gyflawni’r nod hwn.
Mae enghreifftiau o blastigau defnydd untro a dewisiadau amgen yn cynnwys:
· Gwellt papur yn hytrach na gwellt plastig,
· Cwpanau y gellir eu hailgylchu neu eu hail-ddefnyddio
· Deunydd metel y gellir ei gompostio neu ddeunydd arall yn hytrach na chyllyll a ffyrc o blastig
· Dim pecynnau pupur a halen na sawsiau defnydd untro
· Ffyn troi y gellir eu compostio neu eu hail-ddefnyddio
· Deunydd lapio neu fagiau papur yn hytrach na phlastig
· Poteli y gellir eu hail-ddefnyddio yn hytrach na phlastig i'w daflu
· Papurau wedi’u tyllu a’u rhwymo yn hytrach na phocedi plastig
· Chwilio am ddulliau eraill o lamineiddio hysbysebion cyhoeddus ar bapur yn hytrach na phlastig.
Cyfleoedd:
· Polisi diblastig i ysgolion
· Amodau cynllunio, o bosibl â chefnogaeth Llywodraeth Cymru, i gynnwys polisïau ar reoli neu gael gwared â gwastraff
· Cynyddu ein canran o wastraff y gellir ei ailgylchu, gan leihau swm y gwastraff sy’n cael ei losgi neu ei anfon i safleoedd tirlenwi
· Ein swyddfeydd, ein parciau, ein hybiau, ein hysgolion, ein llyfrgelloedd, ein canolfannau hamdden, ein cerbydau a miloedd o aelodau staff
· Ein p?er prynu a dylanwadu gyda chyflenwyr, partneriaid a rhanddeiliaid
· Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol – rhaid mai hwn yw yn un o’r penderfyniadau mwyaf cydymffurfiol posib!
Cafodd y Cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Lancaster.
Ystyriodd yr Arglwydd Faer y ddau gynnig yn eu tro.
Diwygiad 1: Cynigwyd gan y Cynghorydd Wood
Eiliwyd gan y Cynghorydd Sandrey
Ar ôl y paragraff cyntaf disodli’r holl destun gyda: -
Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r canlynol:
· Mae plastigion defnydd untro’n creu gwastraff diangen sy’n cael effaith andwyol ar ein cymunedau a’r amgylchedd.
· Caiff oddeutu 400 miliwn tunnell o blastig ei gynhyrchu'n rhyngwladol bob blwyddyn, ac mae disgwyl i 40% ohono fod yn blastig untro [1]. Mae dros 8 miliwn tunnell o blastig yn mynd i foroedd y byd bob blwyddyn, a’r rhan fwyaf ohono’n dod o’r tir [2].
· Does dim modd ailgylchu llawer o blastigau, gan gynnwys polystyren ac yn aml mae cwpanau coffi papur yn cynnwys polyethylen gan eu gwneud nhw’n anodd i ailgylchu.
· Mae ailddefnyddio’n well na ailgylchu na gwaredu, gan ei fod yn gofyn am lai o ynni ac yn creu llai o wastraff.
· Mae busnesau bach ar draws De Cymru’n cymryd camau rhagweithiol i annog defnyddwyr i ddefnyddio llai o blastigion [3].
· Mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd eisoes wedi bod yn flaengar gydag ‘ymgyrch Dim Gwellt’ [4].
Mae’r Cyngor hwn wedi penderfynu dechrau’r broses i fod yn Ddinas Ddiblastig trwy:
· Gefnogi Arfordiroedd Diblastig, ymrwymo i ddewisiadau eraill nad ydynt yn defnyddio plastig a chefnogi mentrau diblastig yn y ddinas.
· Gosod esiampl ac arwain y ffordd drwy geisio gwaredu pob plastig untro o eiddo'r Cyngor erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2018-19, a hyrwyddo gwarediad plastigau untro o leoedd eraill. Annog pob busnes yr ydym yn gweithio gyda nhw, drwy lwybrau caffael a rhwydweithiau eraill, i hyrwyddo gwarediad cynnyrch tebyg yn eu hamgylcheddau busnes. Ymhellach i hynny, annog busnesau a manwerthwyr lleol i ymatal rhag defnyddio a gwerthu eitemau plastig defnydd untro, gan eu newid am ddewisiadau cynaliadwy amgen.
· Sicrhau bod yr holl sefydliadau sy’n derbyn cyllid gan y Cyngor yn ymrwymo i arferion cynaliadwy a’u bod yn cael eu hannog i ddechrau’r broses raddol o beidio â defnyddio pob eitem blastig defnydd untro.
· Ceisio sefydlu gr?p rhanddeiliaid gan gynnwys cynrychiolwyr cymunedol, i fwrw ymlaen â’r nod hwn, ym mhob amgylchedd busnes a chymuned.
· Creu mannau cymunedol diblastig yn ein parciau, ein llyfrgelloedd, ein hybiau a’n canolfannau cymuned a hamdden.
· Gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod ysgolion, colegau a sefydliadau yn ddiblastig.
· Hyrwyddo neu drefnu digwyddiadau cymunedol i gael gwared â gwastraff plastig o’n harfordir a mannau eraill.
· Datblygu polisi plastigau.
Cyfleoedd:
· Polisi diblastig i ysgolion
· Cefnogi cynlluniau i gyflwyno’r ffynhonnau d?r a safleoedd adlenwi.
· Amodau cynllunio i gynnwys polisïau ar reoli neu gael gwared â gwastraff
· Cynyddu ein canran o wastraff y gellir ei ailgylchu, gan leihau swm y gwastraff sy’n cael ei losgi neu ei anfon i safleoedd tirlenwi
· Ein swyddfeydd, ein parciau, ein hybiau, ein hysgolion, ein llyfrgelloedd, ein canolfannau hamdden, ein cerbydau a miloedd o aelodau staff
· Ein p?er prynu a dylanwadu gyda chyflenwyr, partneriaid a rhanddeiliaid
· Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol – rhaid mai hwn yw yn un o’r penderfyniadau mwyaf cydymffurfiol posib!
1. Geyer R, Jambeck JR, Law KL. Production, use, and fate of all Plastics ever made. Sci Adv. 2017;3(7).
2. “BBC to ban single-use plastics by 2020 after Blue Planet II”. http://www.bbc.co.uk/news/uk-43051153
3. “Momentum builds in small businesses to curb plastic use”.
http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-42832201
4. “Students spearhead anti-plastic movement in Cardiff”.
http://www.jomec.co.uk/intercardiff/environment/students-spearhead-anti-plastic-movement-in-cardiff
Diwygiad 2: Cyflwynwyd gan y Cynghorydd Michael
Eiliwyd gan y Cynghorydd Lister
Paragraff cyntaf dileu pob dim ar ôl niwed a’i ddisodli gyda: -
Mae plastigion defnydd untro’n creu gwastraff diangen sy’n cael effaith andwyol ar ein cymunedau a’r amgylchedd.
Cynhyrchir tua 400 miliwn o dunelli o blastigion ledled y byd bob blwyddyn y bwriedir i 40% ohonynt fod yn ddefnydd untro.
Mae dros 8 miliwn o dunelli o blastigion yn cyrraedd cefnforoedd y byd bob blwyddyn, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn deillio o’r tir.
Mae ailddefnyddio’n well nag ailgylchu neu waredu gan ei fod angen llai o ynni.
Mae busnesau ar draws De Cymru’n cymryd camau rhagweithiol i annog defnyddwyr i ddefnyddio llai o blastigion.
Caerdydd yw’r ddinas orau yn y DU o ran ailgylchu.
Caerdydd yw’r ddinas orau o bob un o’r 10 dinas graidd o ran ailgylchu.
Bydd Strategaeth Gwastraff 2018-21 newydd Caerdydd yn canolbwyntio ar gyfarfod y targedau a nodwyd gan LlC, sef 70% ailgylchu erbyn 2025.
Bydd Cyngor Caerdydd yn adnabod ffrydiau ailgylchu fydd yn ychwanegu at ein ffigyrau ailgylchu ac yn galw ar bob Cynghorydd am gymorth.
Mae’r Cyngor yn cydnabod y gwaith da sy’n cael ei wneud i gynyddu ailgylchu.
Mae’r Cyngor hwn yn cydnabod y niwed y mae gwastraff yn ei wneud i’n Byd, gan gynnwys eitemau untro ac yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camu i leihau gwastraff ac i'w atal rhag mynd i'r moroedd ac achosi mwy o niwed.
Mae’r Cyngor yn galw ar y Cabinet i wneud y canlynol:
(i) gweithio gyda phartneriaid megis y fenter Dim Gwellt i gyfleu'r neges ar wellt untro, ynghyd â gweithio gyda nhw ar gael llyfrau addysg amgylcheddol i bob ysgol gynradd, a rhoi lle iddyn nhw ar ein gwefan 'Carwch Eich Cartref'.
(ii)
(iii) gweithio gyda D?r Cymru ar Orsafoedd Ail-lenwi megis:-
· Llyfrgell Ganolog Caerdydd
· Hyb Grangetown
· Hyb Ystum Taf a Gabalfa
· Hyb Llanisien
· Hyb Llanrhymni
· Hyb Rhydypennau
· Hyb Tredelerch
· Hyb Llaneirwg
· Hyb STAR
Mae’r Cyngor yn galw ar y Cabinet i sicrhau ein bod ni’n parhau i ymchwilio i farchnadoedd ailgylchu a oedd yn cael eu diystyru o'r blaen megis: -
· Teiars Ceir;
· Gwydr Dwbl UPVC;
· Polystyren
· Matresi ac ati;
Mae’r Cyngor yn galw ar y Cabinet i greu adroddiad yn amlinellu cynlluniau erbyn Hydref 2018 i leihau eitemau untro ar eiddo’r cyngor megis cwpanau, papur lapio, bagiau ac ati.
Ac yn galw ar y Cabinet i drafod gyda phartneriaid a rhanddeiliad am leihau eitemau untro.
Gwahoddodd yr Arglwydd Faer drafodaeth ar y cynnig. Ar ddiwedd y drafodaeth gwahoddodd yr Arglwydd Faer y Cynghorydd Jones-Pritchard i grynhoi. Wrth grynhoi, nododd y Cynghorydd Jones-Pritchard ei fod yn derbyn diwygiad 2 fel y cynnig gwreiddiol.
Symudodd yr Arglwydd Faer at y pleidleisiau.
COLLWYD y bleidlais ar Ddiwygiad 1.
PASIODD y bleidlais ar y Cynnig Gwreiddiol fel a ganlyn: -
Bod y cyngor hwn yn cydnabod y difrod mae plastigion gwastraff yn ei beri i’r amgylchedd byd-eang, yn cydnabod bod mesurau y gallwn eu cymryd yn awr i leihau neu roi terfyn ar ein cyfraniad at yr halogiad a’r difrod hynny ac ymrwymo i fod yn Ddinas Ddiblastig.
Mae plastigion defnydd untro’n creu gwastraff diangen sy’n cael effaith andwyol ar ein cymunedau a’r amgylchedd.
Cynhyrchir tua 400 miliwn o dunelli o blastigion ledled y byd bob blwyddyn y bwriedir i 40% ohonynt fod yn ddefnydd untro.
Mae dros 8 miliwn o dunelli o blastigion yn cyrraedd cefnforoedd y byd bob blwyddyn, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn deillio o’r tir.
Mae ailddefnyddio’n well nag ailgylchu neu waredu gan ei fod angen llai o ynni.
Mae busnesau ar draws De Cymru’n cymryd camau rhagweithiol i annog defnyddwyr i ddefnyddio llai o blastigion.
Caerdydd yw’r ddinas orau yn y DU o ran ailgylchu.
Caerdydd yw’r ddinas orau o bob un o’r 10 dinas graidd o ran ailgylchu.
Bydd Strategaeth Gwastraff 2018-21 newydd Caerdydd yn canolbwyntio ar gyfarfod y targedau a nodwyd gan LlC, sef 70% ailgylchu erbyn 2025.
Bydd Cyngor Caerdydd yn adnabod ffrydiau ailgylchu fydd yn ychwanegu at ein ffigyrau ailgylchu ac yn galw ar bob Cynghorydd am gymorth.
Mae’r Cyngor yn cydnabod y gwaith da sy’n cael ei wneud i gynyddu ailgylchu.
Mae’r Cyngor hwn yn cydnabod y niwed y mae gwastraff yn ei wneud i’n Byd, gan gynnwys eitemau untro ac yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camu i leihau gwastraff ac i'w atal rhag mynd i'r moroedd ac achosi mwy o niwed.
Mae’r Cyngor yn galw ar y Cabinet i wneud y canlynol:
(i) gweithio gyda phartneriaid megis y fenter Dim Gwellt i gyfleu'r neges ar wellt untro, ynghyd â gweithio gyda nhw ar gael llyfrau addysg amgylcheddol i bob ysgol gynradd, a rhoi lle iddyn nhw ar ein gwefan 'Carwch Eich Cartref'.
(ii)
(iii) gweithio gyda D?r Cymru ar Orsafoedd Ail-lenwi megis:-
· Llyfrgell Ganolog Caerdydd
· Hyb Grangetown
· Hyb Ystum Taf a Gabalfa
· Hyb Llanisien
· Hyb Llanrhymni
· Hyb Rhydypennau
· Hyb Tredelerch
· Hyb Llaneirwg
· Hyb STAR
Mae’r Cyngor yn galw ar y Cabinet i sicrhau ein bod ni’n parhau i ymchwilio i farchnadoedd ailgylchu a oedd yn cael eu diystyru o'r blaen megis: -
· Teiars Ceir;
· Gwydr Dwbl UPVC;
· Polystyren
· Matresi ac ati;
· Mae’r Cyngor yn galw ar y Cabinet i greu adroddiad yn amlinellu cynlluniau erbyn Hydref 2018 i leihau eitemau untro ar eiddo’r cyngor megis cwpanau, papur lapio, bagiau ac ati.
·
Ac yn galw ar y Cabinet i drafod gyda phartneriaid a rhanddeiliad am leihau eitemau untro.