Derbyniwyd y datganiadau canlynol hyn:
-
Datganiad yr Arweinydd – Y Cynghorydd Huw Thomas
Ymatebodd yr Arweinydd i gwestiynau a godwyd mewn perthynas â’r ymateb Tywydd Garw dros y Gaeaf; Ardrethi Busnes, Cydlyniad Cymunedol a Diwygio Llywodraeth Leol.
Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant – Cynghorydd Elsmore
Ymatebodd yr Aelod Cabinet i gwestiwn mewn perthynas ag aelodaeth Tasglu Caerdydd Project Dinasoedd Cynhwysol.
Aelod Cabinet, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth—Y Cynghorydd Wild
Ymatebodd yr Aelod Cabinet i gwestiynau ar y Papur Gwyrdd Trafnidiaeth ac Aer Glan gan gynnwys teithio llesol a'r Cynllun Nextbike; diweddariad ar Orsaf Fysus Caerdydd a Diwrnod Dim Ceir Caerdydd 2018, Dydd Sul 13 Mai 2018.
Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygiad – Y Cynghorydd Goodway
Ymatebodd yr Aelod Cabinet i gwestiynau mewn perthynas â’r arddangosfa MIPIM, Gorsaf Fysus Caerdydd, y partner cyflawni Metro a hyb trafnidiaeth Gorllewin Caerdydd.
Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden – Y Cynghorydd Bradbury
Gwnaeth yr Aelod Cabinet ymateb i gwestiwn ar ganlyniad aflwyddiannus y Cyngor yn sgil y bid i gynnal rhai o gemau Euro 2020.
Dirprwy Arweinydd, Datganiad ar Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau – Y Cynghorydd Merry
Ymatebodd y Dirprwy Arweinydd i gwestiynau ar y Rhaglen Gyfoethogi'r Gwyliau Ysgol, y ffederasiwn Pear Tree a Diwrnod Rhyngwladol y Merched.
Aelod Cabinet, Cyllid, Moderneiddio a Pherfformiad – Y Cynghorydd Weaver
Atebodd yr Aelod Cabinet gwestiynau ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched; y cynllun achrediad Cyflog Byw i fentrau bychan a chanolig yng Nghaerdydd.
Aelod Cabinet, Tai a Chymunedau – Y Cynghorydd Thorne
Atebodd yr Aelod Cabinet gwestiynau a godwyd mewn perthynas â’r diweddariad ar wiriadau diogelwch tân ychwanegol ar gladio ar flociau fflatiau uchel yng Nghaerdydd, a’r cynllun CAERedigrwydd sy’n cefnogi pobl ddigartref a’r rheiny sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref yng Nghaerdydd.
Yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân Ailgylchu a'r Amgylchedd – Y Cynghorydd Michael
Atebodd yr Aelod Cabinet gwestiynau ar dipio anghyfreithlon a’r fenter carwch eich cartref.
Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd – Y Cynghorydd Hinchey
Roedd yr Aelod Cabinet yn falch o adrodd am y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf newydd, Canolfannau Teulu Swan, Hafan Gobaith a’r Cynllun Hyfforddi Bright Start.