Caffael Gofal Cartref
PENDERFYNWYD:
1. y dylid awdurdodi’r dull cyffredinol arfaethedig i sicrhau Rhestr Darparwyr Cymeradwy Ddeinamig ar gyfer gwasanaethau gofal cartref fel y nodir yn yr adroddiad; a
2. rhoi awdurdod i Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cyd â’r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr Llywodraethu a'r Gwasanaethau Cyfreithiol:
a)i ymdrin â phob agwedd ar gaffael all gynnwys:
i. cymeradwyo'r gwaith o sefydlu Rhestr Ddeinamig o Ddarparwyr Cymeradwy
ii. cymeradwyo’r meini prawf gwerthuso tendr i sefydlu’r rhestr ddeinamig o ddarparwyr cymeradwy
iii. penodi’r darparwyr newydd i’r rhestr ddeinamig o ddarparwyr cymeradwy ar ôl iddynt fwrw’r meini prawf dethol a nodir gan y Cyngor
iv. dirprwyo mwy o awdurdod i ddyfarnu contractau sydd eu hangen yn ystod bywyd y rhestr ddeinamig o ddarparwyr cymeradwy, bydd dirprwyaethau pellach yn unol â Chynllun Dirprwyo’r Cyngor
v. ymdrin â phob mater cysylltiedig;
b) awdurdodi unrhyw broses gaffael gofynnol i gael y dechnoleg gysylltiedig sydd ei hangen i gefnogi'r rhestr ddeinamig o ddarparwyr cymeradwy, hyd at a chan gynnwys dyfarnu'r contract