Mater - penderfyniadau

Pecyn bargen gyda Chymdeithas Tai Cadwyn i ddarparu 50 o fflatiau cyngor newydd

30/05/2018 - Caffael Cynllun Adeiladu Tai Newydd yn yr Hen Adeilad Walters, Butetown ar gyfer Tai Cyngor

 

Ni chyhoeddir Atodiadau 2 a 3 yr adroddiad hwn gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972

 

PENDERFYNWYD: dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Cymunedau, Tai a Gwasanaethau Cwsmeriaid i wneud cytundeb gyda Chymdeithas Tai Cadwyn, ar gyfer adeiladu 50 fflat newydd yn amodol ar gytuno ar Benawdau Telerau gan gynnwys yr holl gymeradwyaeth dichonoldeb a diwydrwydd dyladwy.