Mater - penderfyniadau

Datblygu Darpariaeth Gyflogaeth Ledled y Ddinas

01/02/2018 - Datblygu Darpariaeth Gyflogadwyedd Ledled y Ddinas a Dull Newydd o Feithrin Cymunedau Gwydn

PENDERFYNWYD:

 

1.      cytuno i‘r dull o ddarparu Gwasanaethau Cyflogadwyedd yn y dyfodol fel y nodir yn yr adroddiad

 

2.      dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid, Tai a Chymunedau i gymryd camau angenrheidiol i weithredu’r gwasanaeth Cyflogadwyedd a threfniadau pontio newydd.  

 

3.      awdurdodi swyddogion i adolygu'r agwedd at y rhaglen Creu Cymunedau Gwydn, gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus, i lywio ffordd ymlaen arfaethedig i’r Cyngor ei hystyried.