I nodi bod y Cyngor yn ei gyfarfod ar 28 Medi 2017 wedi ail-gadarnhau’r Aelodaeth ganlynol:
Y Cynghorwyr Davies, Hinchey, Jenkins, Lent, Lister, Merry, Molik, Walker a Weaver.
I nodi yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 25 Mai 2017, y cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl canlynol:
(a) Hyrwyddo gwelliannau gwirioneddol a pharhaus o ran sicrhau cyfleoedd gwell i Blant sy’n Derbyn Gofal, Plant mewn Angen, Pobl Ifanc sy'n Derbyn Gofal a phlant a phobl ifanc yn y system cyfiawnder troseddol ac i weithio ar sail rhaglen flynyddol at y diben hwnnw:
(b) Llunio, monitro ac adolygu strategaeth rhianta corfforaethol, a sicrhau y caiff honno ei rhoi ar waith yn effeithiol drwy gynlluniau gwaith a rhaglenni hyfforddiant rhianta corfforaethol.
(c) Ceisio manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd bywyd Plant sy'n Derbyn Gofal, Plant mewn Angen a Phobl sy’n Gadael Gofal o ran iechyd, cyflawniad addysgol, a mynediad i hyfforddiant a chyflogaeth, i gynorthwyo â’r gwaith o bontio i fyd oedolion cadarn a chynhyrchiol;
(d) Argymell ffyrdd y gellir datblygu gwasanaethau mwy integredig ym mhob un o Gyfarwyddiaethau'r Cyngor, ysgolion a rhanddeiliaid eraill â’r nod o sicrhau canlyniadau gwell i Blant sy’n Derbyn Gofal, Plant mewn Angen a Phobl sy’n Gadael Gofal.
(e) Sicrhau bod trefniadau ar waith i alluogi Plant sy’n Derbyn Gofal, Plant mewn Angen a Phobl sy’n Gadael Gofal i chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gynllunio a llunio gwasanaethau, a'u bod yn cael cyfle i ddweud ei barn a bod y farn honno'n cael ei dilyn.
(f) Sicrhau bod systemau monitro perfformiad ar waith, ac adolygu data perfformiad yn rheolaidd i sicrhau gwelliannau cyson o ran perfformiad mewn cysylltiad â chanlyniadau i Blant sy’n Derbyn Gofal, Plant mewn Angen a Phobl sy’n Gadael Gofal.
(g) Derbyn yr holl adroddiadau archwilio a blynyddol perthnasol y Gwasanaethau Plant, gan gynnwys:
Adroddiad Safonau Gofal Cartrefi Plant; Adolygiadau Ymarferion Achos, Adroddiad Blynyddol Safonau Gofal Maethu; Adroddiad Blynyddol Safonau Gofal Mabwysiadu a Maethu; Comisiynu 4C; Adroddiad Blynyddol y Tu Allan i’r Ardal; Adroddiad Blynyddol Dyfodol Disgleiriach (gydag addysg); adroddiadau Cwynion gan Blant; a’r Adroddiad Blynyddol ar Eiriolaeth;
(h) Adrodd i’r Cabinet o leiaf ddwywaith y flwyddyn,
(i) Gwneud argymhellion i’r Cabinet pan fo’r cyfrifoldeb am y swyddogaeth honno yn nwylo'r Cabinet;
(j) Adrodd i’r Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc yn ôl yr angen;
(k) Argymell penodi aelodau cyfetholedig i'r Pwyllgor i'w cymeradwyo gan y Cyngor;
(l) Llunio a chyflawni rhaglen o ddigwyddiadau ymgynghori, gwrando ac ymgysylltu gyda Phlant sy'n Derbyn Gofal a Phobl sy'n Gadael Gofal, yn ogystal ag ymweliadau i wasanaethau sy’n cynnig cyngor a chymorth i Blant sy’n Derbyn Gofal, Plant mewn Angen a Phobl sy’n Gadael Gofal;
(m) Cyflwyno Adroddiad Blynyddol ar waith y Pwyllgor i’r Cyngor Llawn.
(n) Bydd gofyn i bob Aelod o’r Pwyllgor ddilyn hyfforddiant perthnasol i’w galluogi nhw i gyflawni eu dyletswyddau’n iawn.