Cynigiwyd gan: Y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies
Eiliwyd gan: Y Cynghorydd Ashley Lister
Mae’r Cyngor hwn yn nodi y caiff Credyd Cynhwysol, y taliad misol unigol sy’n cymryd lle'r chwe budd-dal oedran gweithio, ei gyflwyno yng Nghaerdydd o ddiwedd mis Chwefror 2018.
Er gwaith y gwaith sy’n cael ei wneid yng Nghaerdydd i gefnogi, cynghori a chynorthwyo'r bobl hynny yr effeithir arnynt gan ddiwygio lles, mae'n anochel y bydd Credyd Cynhwysol yn effeithiol yn negyddol ar fywydau'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein dinas trwy weithredu proses y mae'n ymddangos ei bod wedi'i dylunio i wthio pobl i dlodi a dyled. Mae’r Cyngor hefyd yn nodi, yn ein hardal, ei bod yn debygol y caiff degau o filoedd o bobl eu heffeithio gan y newidiadau hyn.
Mae Cyngor Caerdydd yn nod gyda phryder bod symud i Gredyd Cynhwysol Gwasanaeth Llawn mewn rhannau eraill o’r wlad wedi achosi caledi ariannol sylweddol i lawr o bobl yn symud at y system newydd hon o daliadau budd-dal. Cyn cyflwyno Credyd Cynhwysol mae angen mynd i’r afael â’r problemau canlynol:
Mae’r syniad bod pob gweithiwr mewn swyddi lle y cânt eu talu mis yn hwyr yn anwybyddu'r realiti ar gyfer y 1.5m o weithwyr sy’n cael trafferth gyda chontractau dim oriau, swyddi anniogel neu hunangyflogaeth wedi gorfodi. Mae angen i hawlwyr gael eu talu o’r diwrnod cyntaf.
Mae llawer o hawlwyr yn cael trafferth gyda chyllidebu a dylai taliadau gael eu talu i hawlwyr ar wahân mewn annedd a phob pythefnos yn hytrach na phob mis. Gyda’r polisi presennol, mae perygl go iawn, os â’r budd-dal cyfan i un unigolyn wedi enwi, nad os warant y caiff yr arian ei ddosbarthu’n deg o fewn yr annedd.
Mae gwthio hawlwyr i ddyled yn ychwanegu at y straen a'r anniogelwch ar gyfer hawlwyr.
Mewn gwirionedd, mae mynd â gallu hawlydd i fwydo ei hunain a’i deulu’n eu hatal rhan canolbwyntio ar ddod o hyd i gyflogaeth gan ei fod yn rhy brysur yn trio goroesi. Mae’r dystiolaeth o’r niwed y mae sancsiynau yn ei achosi’n tyfu – maent yn greulondeb diangen yn ein system fudd-daliadau.
Mae gorfodi hawlydd newydd i wneud cais ar-lein yn achosi problemau go iawn i lawer o bobl nad oes ganddynt sgiliau TG neu fynediad atynt i ymdopi gyda’r cais ar-lein cymhleth. Mae hefyd angen cael gwared â llinell gymorth y telir amdani gan na all hawlwyr fforddio’r cyfraddau drud a godir. Mae hefyd angen peidio â chau canolfannau swyddi gan fod angen cymorth wyneb yn wyneb ar hawlwyr i’w helpu i fynd yn ôl i’r gwaith ac i ddelio â chymhlethdod Credyd Cynhwysol.
Mae’r cymal hwn o GU yn rhoi pwyslais ar unigolion sydd am gael nifer mwy o oriau gwaith - ac nid ar gyflogwyr sy'n cael budd o oriau byr ac anniogelwch.
Y gyfradd y bydd rhai hawlwyr yn colli budd-dal yw 63p mewn punt sydd, wrth gymharu â chyfradd uchaf treth incwm o 45% ar incymau dros £150,000 y flwyddyn, yn dangos pa mor annheg yw CC ar gyfer aneddiadau sy'n ennill yr incymau isaf.
Mae’r Cyngor hwn yn nodi gyda phryder, felly, fod gweithredu Credyd Cynhwysol Gwasanaeth Llawn yn y ddinas yn debygol o fod yn ddifrifol niweidiol i iechyd a llesiant miloedd o drigolion lleol.
Mae Cyngor Caerdydd felly yn penderfynu:
Gofyn i bob arweinydd gr?p gwleidyddol i gydysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn gofyn bod y system Gredyd Cynhwysol yn cael ei hailddylunio mewn ffordd sy’n cael gwared â’r risgiau hanfodol y mae'r Cyngor wedi mynegi ei bryderon amdanynt.
Dogfennau ategol: