Eitem Agenda

Hysbysiad o Gynnig

Cynigiwyd gan:    Y Cynghorydd Rhys Taylor  

 

Eiliwyd gan:   Y Cynghorydd Joe Carter

 

Mae system addysg deg yn sicrhau nad yw anfantais economaidd yn rhwystr rhag gallu cyrchu addysg briodol.

 

Mae'r Cyngor hwn:

·         yn cymeradwyo’r nod corfforaethol i leihau’r bwlch o ran deilliannau a chyfleoedd addysgol;

·         yn nodi’r cynnydd yn nifer y disgyblion o 27,789 yn 2010 i 33,469 ym mis Ionawr 2017;

·         yn nodi y bydd y galw am lefydd cyfrwng Saesneg adeg mynediad ysgol uwchradd yn fwy na nifer y llefydd erbyn mis Medi 2019; a’r galw am lefydd Cymraeg adeg mynediad uwchradd yn fwy na nifer y llefydd erbyn mis Medi 2021;

·         yn nodi’r wasgfa bresennol ar yr ystâd ysgolion ac na lwyddodd bron i 20% o ddisgyblion sicrhau unrhyw un o’u tri dewis cyntaf ar gyfer llefydd ysgol uwchradd yn 2016/17;

·         yn nodi fod y bwlch cyrhaeddiad adeg Cyfnod Allweddol 4 ar gyfer y plant hynny sy’n derbyn Prydau Ysgol Am Ddim yn 33.7 yn 2017.

·         yn cydnabod fod teuluoedd sydd â’r modd economaidd i wneud hynny yn gallu symud o fewn dalgylchoedd fel ag i allu sicrhau llefydd mewn ysgolion sydd wedi eu gordanysgrifio, gan arwain at erydu cydlyniad cymunedol ac o bosib ledu’r bwlch parthed deilliannau a chyfleoedd addysgol.

 

Mae’r Cyngor yn galw ar i’r weinyddiaeth i:

 

1.    Gwblhau ymarferiad ariannol fel rhan o’r broses ymgynghori ar y gyllideb ac er mwyn bwydo’r drafodaeth ar y gyllideb, a chyfrifo:

a.    effaith cynnig cludiant ysgol uwchradd am ddim i unrhyw un sy’n byw dros 2.5 milltir o’u hysgol uwchradd;

b.    Cost arfaethedig ailgyflwyno darpariaeth cludiant yn ôl disgresiwn i oedolion ifanc ag anableddau dysgu neu gorfforol mewn addysg 16-19 oed, fel ag a ganiateir yn Adran 6 Gorchymyn Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.

2.    Ddwyn gerbron y cyfarfod y cyngor fis Tachwedd amlinelliad manwl o sut y bydd yn mynd i’r afael â’r diffyg llefydd ar y gorwel agos yn ysgolion uwchradd presennol y ddinas.