Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r canlynol:
1) Fel Aelodau Etholedig mae gennym ni gyfrifoldeb dros ein Dinas ac mae hynny’n cynnwys creu cymunedau cynaliadwy, gyda chynlluniau cynhwysfawr i gyflawni datrysiadau ffyrdd a rhwydwaith sy'n gyraeddadwy.
2) Mae Caerdydd yn wynebu tagfeydd traffig a rhwydwaith sylweddol oni bai y cymerir camau brys. Mae dogfennau strategol yn cyfeirio at y ffaith bod rhwydwaith ffyrdd Caerdydd wedi cyrraedd capasiti llawn yn 2010 ac wedi mynd dros gapasiti ers hynny. Mae hyn yn effeithio ar y rhai hynny sy’n byw ac yn gweithio yn y ddinas, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol.
3) Mae her ddifrifol yn wynebu Caerdydd o ran diffyg capasiti trafnidiaeth gyhoeddus wrth i’r ddinas dyfu yn ystod cyfnod y Cynllun Datblygu Lleol a thu hwnt. Mae cynnydd o ran capasiti trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd yn hanfodol. Mae hyn o leiaf angen bod yn unol â’r rhagolygon twf sydd wedi'u cynnwys yn y CDLl, ac i baratoi ar gyfer twf mewn cymudwyr yn cyrraedd o awdurdodau cymdogol.
Mae’r Cyngor yn galw ar y Cabinet i wneud y canlynol:
1) Cynhyrchu Cynllun Gweithredu, yn seiliedig ar ddata trafnidiaeth a rhwydwaith manwl gywir a diweddaraf er mwyn mynd i'r afael â'r broblem o ran trafnidiaeth gyhoeddus fel nad yw tagfeydd yn y dyfodol yn achosi i Gaerdydd ddod i stop, er budd y rhai hynny sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a’r rhai hynny nad ydynt.
2) Cyflwyno’r cynllun i’r Cyngor Llawn mewn 6 mis.
Cynigiwyd gan: Y Cynghorydd Dianne Rees
Eiliwyd gan: Y Cynghorydd Gavin Hill- John