Eitem Agenda

Rhaglen Gyfoethogi Gwyliau’r Ysgol - Brîff

·         Bydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau) yn bresennol ac mae’n bosibl y bydd hi am wneud datganiad;

 

·         Bydd Nick Batcherlar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes), Kaite Palmer (Bwyd Caerdydd), Judith Gregory (Arlwyo Addysg, Cyngor Dinas Caerdydd) ac Emma Hill (Chwaraeon Caerdydd) yn rhoi cyflwyniad ac ateb cwestiynau'r Aelodau;

 

·         Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor;

 

·         Ystyrir camau i’w cymryd yn berthnasol i'r eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd y Pwyllgor adroddiad ar waith Rhaglen Gyfoethogi Gwyliau’r Ysgol ‘Bwyd a Hwyl’.  Mae’r rhaglen ffordd arloesol i atal plant rhag angen bwyd yn ystod gwyliau’r ysgol ac i leihau effaith tlodi ac amddifadu cymdeithasol.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau fod gwyliau’r ysgol weithiau'n cyflwyno anawsterau ar gyfer teuluoedd sy'n ennill incymau isel y byddai eu plant yn cael budd o frecwast a chinio ysgol am ddim.  Mae rhai plant yn methu prydau yn ystod gwyliau’r ysgol.  Ar ben hynny, mae diffyg chynlluniau chwarae am ddim a gweithgareddau chwaraeon yn cael effaith mwyaf ar blant dan anfantais.  Mae methu prydau, ffordd eisteddog o fyw ac allgáu cymdeithasol yn ystod y gwyliau yn atgyfnerthu anghydraddoldeb iechyd sydd eisoes yn bodoli ac allgáu cymdeithasol a hefyd yn tanlinellu llwyddiant polisïau brecwast a chinio ysgol am ddim.

 

Datblygwyd a threialwyd rhaglen gyfoethogi yr haf ‘Bwyd a Hwyl’ yng Nghaerdydd yn 2015 ac yna cafodd ei chyflwyno mewn mwy o ardaloedd yng Nghymru yn 2016. Y rhaglen yw’r enghraifft cyntaf y DU o broject amlasiantaeth sy’n cynnig prydau iach, sgiliau maeth, chwaraeon a gweithgareddau corfforol eraill yng ngwyliau'r ysgol.  Y bwriad yw gwella iechyd plant a hybu dysgu.

 

Croesawodd y Cadeirydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau; Nick Batchelar, Cyfarwyddwr Addysg; Katie Palmer, Bwyd Caerdydd; Judith Gregory, Arlwyo Addysg ac Emma Hill, Chwaraeon Caerdydd i’r cyfarfod.  Gwahoddwyd yr Aelod Cabinet i wneud datganiad byr.

 

Derbyniwyd y Pwyllgor gyflwyniad byr.  Cafodd Aelodau wahoddiad i holi cwestiynau, ceisio eglurhad pellach neu wneud sylwadau am y wybodaeth a dderbyniwyd.  Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

·         Gofynnodd Aelodau am eglurhad ar nifer y plant sy’n mynychu’r rhaglen a’r meini prawf dethol a ddefnyddir i ddyrannu lleoedd ar y rhaglen. 

Dywedodd swyddogion fod yr ysgolion sy’n cofrestru ar gyfer y rhaglen wedi’u lleoli mewn ardaloedd amddifad iawn.  Y llynedd, mynychodd 416 o blant o 10 ysgol y rhaglen.  Cafwyd cynnydd yn nifer yn mynychu eleni ond ni fydd ffigurau terfynol ar gael tan fis Hydref.  Bydd pob ysgol yn rhoi ei meini prawf ei hun ar waith.  Nodwyd bod plant yn CA2 yn bennaf sydd ag angen.

·         Roedd y gost fesul plant yn mynychu’n gyfartal ag oddeutu £20 y plentyn y dydd yng Nghaerdydd, a gymharodd â £30 y plentyn y dydd ledled Cymru. 

Mae anodd cyfrif costau oherwydd darparwyd cyllid gan nifer o asiantaethau.  Fodd bynnag, oddeutu £8k yr ysgol oedd y gost.  Nododd Aelodau, pe bai cynnydd yn nifer y plant yn mynychu’r rhaglen, y byddai’r gost fesul plentyn yn cael ei lleihau yn unol â hynny.  Staffio yw’r gost uchaf.  Mae’r gymhareb plentyn/oedolion mewn rhai ysgolion yn optimaidd ond nid yw hi mewn ysgolion eraill.  Felly, mae modd arbed mwy o arian.

·         Wrth gymharu â chynlluniau gwirfoddol eraill megis ‘Chomp’ a redir gan Eglwys y Bedyddwyr Albany,, rhedir y cynllun gwirfoddol gan rieni a gwirfoddolwyr. 

Maent yn cynnig rhaglen 2 awr lle y mae plant yng nghwmni rhieni/oedolion ac mae Foodbank Plus yn mynd â phryd i'r plentyn.

·         Dywedodd swyddogion fod ysgolion yn gallu cynnig y rhaglen yn ystod gwyliau’r haf – naill ai 4 dydd yr wythnos am 3 wythnos neu 3 dydd yr wythnos am 4 wythnos. 

Cynigiwyd y rhaglen i 21 ysgolion ar 13 gwahanol safle.

·         Gofynnodd Aelodau a oes ystyriaeth wedi’i rhoi i fyrhau'r oriau o 0900 tan 1500 er mwyn lleihau cost cynnig y rhaglen. 

Dywedodd swyddogion fod rhieni, yn ôl adborth, yn cefnogi diwrnodau hirach gan fod diwrnodau byrrach yn anos eu rheoli.  Cynigiodd y diwrnod hirach gyfle mwy hefyd i amrywio'r gweithgareddau a gynigir yn rhan o'r rhaglen.

·         Gofynnod swyddogion a oes unrhyw ystyriaeth wedi’i rhoi i nodi plant mewn perygl o ordewdra yn ogystal â chanolbwyntio ar amddifadu cymdeithasol. 

Dywedwyd wrth Aelodau nad oes y rhain wedi’i hystyried hyd yn hyn, ond gellid eu hystyried.

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau.

 

Dogfennau ategol: