Yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 25 Mai 2017, penodwyd yr aelodaeth a’r Cylch Gorchwyl canlynol i’r Pwyllgor hwn: -
Aelodaeth
Y Cynghorwyr Jennifer Burke-Davies, Rodney Berman, Joe Carter, Saeed Ebrahim, Susan Goddard, Russell Goodway, Keith Jones, Mike Jones-Pritchard, Kathryn Kelloway, Neil McEvoy, Rod McKerlich a Peter Wong.
Cylch Gorchwyl
I adolygu Cyfansoddiad y Cyngor ac i argymell unrhyw newid i’r Cyngor a/neu’r Cabinet, ac eithrio y bydd gan y Pwyllgor (yn amodol ar gyngor y Swyddog Monitro) yr awdurdod i wneud y newidiadau canlynol ar ran y Cyngor:-
(a) Drafftio gwelliannau i wella eglurder a chael gwared ag anghysonderau.
(b) Diweddaru i adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol a materion cofnodi.
(c) Diwygiadau i Reolau Gweithdrefnol Ariannol, Contractau a Thir (yn amodol ar gyrchu cyngor gan y Swyddog S.151).