Cofnodion:
Ystyriwyd adroddiad sy’n amlinellu cynigion i sefydlu uned hyfforddiant gofal cymdeithasol ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg. Cynigiwyd bod Cyngor Caerdydd yn gweithredu fel yr awdurdod lletya a disgwyliwyd y sefydlir yr uned ar sail niwtral o ran cost.
PENDERFYNWYD:
1. Cymeradwyo’r model busnes, yr agwedd a'r swyddogaethau a nodir yn yr Achos Busnes ar gyfer yr Uned Hyfforddiant Gweithlu Gofal Cymdeithasol rhanbarthol yn Atodlen 1, gan gynnwys
(i) sefydlu Uned Hyfforddiant Gweithlu Gofal Cymdeithasol rhanbarthol del y nodir yn yr adroddiad hwn; a
(ii) chreu a recriwtio swydd Rheolwr Rhanbarthol ar gyfer yr Uned Hyfforddiant Gweithlu Rhanbarthol.
2. dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mewn ymgynghoriad ag Aelodau Cabinet dros Blant a Theuluoedd ac Iechyd, Gofal Cymdeithas a Llesiant, a Chyllid, Moderneiddio a Pherfformiad a Swyddogion Adran 151 a Monitro i ymdrin â phob agwedd ar Lywodraethu ac unrhyw drefniadau/dogfennau cysylltiedig y gallai fod eu hangen mewn perthynas â'r cynigion hyn, gan gynnwys (heb gyfyngiad) cymeradwyo'r cytundeb partneriaeth drafft ac y gall Cyngor Caerdydd a Cyngor Bro Morgannwg wneud yr un cytundeb.
Dogfennau ategol: