Eitem Agenda

Cynigion Cyllidebol 2018/19 i Ymgynghori Arnynt

Penderfyniad:

RESOLVED: that

 

(1)   the budget savings proposals as attached at Appendix 2 to the report be agreed as the Cabinet’s Budget Savings Proposals for Consultation.

 

(2)   It be noted that the formal budget consultation will commence on the 2 November 2017 and run until 14 December 2017. The results of the consultation process will be considered by Cabinet as part of preparing their final 2018/19 budget proposal.

 

(3)   It be noted that the Chief Executive as Head of Paid Service will be issuing all necessary statutory and non-statutory employment consultations in respect of the staffing implications of the proposals.

 

(4)   authority be delegated to the Corporate Director for Resources, in consultation with the Cabinet Member for Finance, Modernisation and Performance, to make minor amendments to the typographical text and supporting statistics in the “Changes for Cardiff” Consultation document prior to publication for formal consultation.

 

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet adroddiad oedd yn cynnwys diweddariad ar yr angen i leihau’r Gyllideb ar gyfer 2018/19 oedd yn cynnwys manylion o’r setliad llywodraeth leol cychwynnol. Adroddwyd bod y setliad cychwynnol yn nodi cynnydd ariannol ar AEF o 0.2% oedd yn cynnwys cyfrifoldeb newydd yn ymwneud ag atal digartrefedd. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am yr angen presennol i leihau'r gyllideb £22.8 miliwn, fyddai angen ei gyflawni drwy gyfuniad o arbedion cyllidebol, capio twf ysgolion, cynnydd i'r Dreth Gyngor a defnyddio cronfeydd wrth gefn. Awgrymwyd y dylid cynnal ymgynghoriad ar yr arbedion cyllidebol arfaethedig ac roedd yr adroddiad yn cynnwys rhaglen ymgynghori ac ymgysylltu.

 

PENDERFYNWYD:

 

(1)   y caiff cynigion arbedion y gyllideb fel y’u hatodwyd yn Atodlen 2 eu cymeradwyo fel Cynigion Arbedion Cyllideb y Cabinet ar gyfer Ymgynghori arnynt.

 

(2)   I’w nodi y bydd yr ymgynghoriad ffurfiol ar y gyllideb yn dechrau ar 2 Tachwedd 2017 ac yn para tan 14 Rhagfyr 2017. Caiff canlyniadau’r broses ymgynghori eu hystyried wedyn gan y Cabinet fel rhan o’r paratoad at gynnig eu cyllideb derfynol ar gyfer 2018/19.

 

(3) I’w nodi y bydd y Prif Weithredwr fel Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig yn cyhoeddi’r ymgynghoriadau cyflogaeth statudol ac anstatudol angenrheidiol o safbwynt goblygiadau staffio’r cynigion.

 

(4) dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau, ar y cyd â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, wneud mân newidiadau i’r testun a’r ystadegau ategol yn y ddogfen ymgynghori “Newid i Gaerdydd” cyn ei chyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol.

 

 

 

Dogfennau ategol: