Eitem Agenda

Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf – Trefniadau ail-gomisiynu

(a)               Bydd y Cynghorydd Graham Hinchey, Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd) yn bresennol ac yn dymuno gwneud datganiad o bosibl.

 

(b)          Bydd Tony Young, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a’i swyddogion yn cyflwyno’r adroddiad a byddant yn ateb unrhyw gwestiynau all fod gan Aelodau;

 

(c)           Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor;

 

(d)          Ystyrir camau i’w cymryd yn berthnasol i'r eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Graham Hinchey (Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd), Tony Young (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol), Irfan Alam (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Plant) Angela Bourge (RhG, Perfformiad ac Adnoddau Strategol), a Ceri George (Rheolwr Gwella Projectau – Atal a Phartneriaethau) i’r cyfarfod.  Rhoddwyd cyflwyniad i’r aelodau mewn perthynas â threfniadau comisiynu newydd:

 

  • Rhesymau dros yr Adroddiad hwn;
  • Sefyllfa Bresennol;
  • Canllaw Newydd;
  • Adolygiad;
  • Gwersi a Ddysgwyd;
  • Tîm y Teulu;
  • Canolbwynt ar Anabledd;
  • Gwasanaethau Rhianta;
  • Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid; ac
  • Amserlen Ddrafft.

 

 

Cafodd Aelodau wahoddiad i wneud sylwadau, gofyn cwestiynau neu geisio eglurhad pellach am y wybodaeth dderbyniwyd.  Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

  • Holodd yr aelodau am ymrwymiad Llywodraeth Cymru (LlC) a dywedwyd wrthynt fod LlC wedi cadarnhau cyllid ar gyfer 2017-18 a bod y contract blynyddol yn dod i ben ym mis Mawrth 2018.
  •  
  • Gall LlC gadarnhau lefelau cyllid yn flynyddol yn unig ond bu pryderon ynghylch y Cyngor yn mynd i mewn i gontractau 4 blynedd gwerth £5m bob blwyddyn. 

 

  • Cododd yr aelodau bryderon ynghylch yr amserlen a roddwyd a chwestiynon nhw a oedd yn realistig.
  •   Dywedodd swyddogion ei bod yn uchelgeisiol ond eu bod yn credu ei bod yn realistig.
  • Holodd yr aelodau am y weithdrefn ar gyfer sicrhau bod y cyhoedd yn gwbl ymwybodol o wasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf a dywedwyd wrthynt fod Strategaeth Gyfathrebu yn cael ei chynllunio ar hyn o bryd. 

 

  • Diben Teuluoedd yn Gyntaf yw sicrhau bod gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yn cael eu gwella.
  •   Mae’n bwysig ystyried yr hyn y mae ei angen ar deuluoedd; mae’n ymwneud â gweithio gyda nhw a’u cefnogi.
  • Dywedwyd wrth yr aelodau fod tîm canolog da ar hyn o bryd a dull reoli contractau llawer mwy clir.

 

CYTUNWYD - Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor at yr Aelod Cabinet er mwyn cyfleu eu sylwadau a’u harsylwadau.

 

 

Dogfennau ategol: