Craffu, monitro ac adolygu gweithrediad cyffredinol Rhaglen Gwella Caerdydd ac effeithiolrwydd gweithredu polisïau, nodau ac amcanion y Cyngor yn gyffredinol, gan gynnwys:
· Materion Cyfansoddiadol a Rheoli Busnes y Cyngor
· Cynllun Corfforaethol Cyngor Caerdydd
· Datblygu Polisïau Strategol
· Rhaglenni Strategol
· Cynllunio Cymunedau a Fforwm Gweledigaeth
· Cysylltiadau’r Sector Gwirfoddol
· Cynnwys ac Ymgysylltu â Dinasyddion
· Cyfathrebu Corfforaethol
· Gwasanaethau Canolfan Gyswllt a Mynediad at Wasanaethau
· Polisi Rhyngwladol
· Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd
· Cydraddoldeb
· Grantiau Corfforaethol a Chyllidol
· Datblygu Sefydliadol
· Rhaglen Effeithiolrwydd Caerdydd
· E-Lywodraeth
· Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
· Eiddo’r Cyngor
· Comisiynu a Chaffael
· Rheoli Carbon
· Gwasanaethau Cyfreithiol
· Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Craffu, monitro ac adolygu effeithiolrwydd systemau rheoli a gweinyddu arian y Cyngor a'r defnydd o adnoddau dynol.
Asesu effaith partneriaethau gydag adnoddau a gwasanaethau a gynigir gan sefydliadau allanol, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, gwasanaethau llywodraeth leol ar y cyd, Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan Lywodraeth Cymru a chyrff lled-adrannol anllywodraethol ar effeithiolrwydd gwasanaethau’r Cyngor.
Adrodd y canfyddiadau yn y cyfarfod Cabinet neu Gyngor perthnasol a rhoi argymhellion ynghylch mesurau a all wella perfformiad y Cyngor a’i wasanaethau yn y maes.