Eitem Agenda

Hysbysiad o Gynnig

Noda’r Cyngor y canlynol:

 

1.            bod Cyngor Caerdydd yn codi bron i £200 y flwyddyn mewn ardrethi busnes (Ardreth Annomestig Genedlaethol) wedi talu i mewn i gronfa ganolog y dychwelir rhan i Gaerdydd ohoni.

2.            Yn 2015/16 a 2016/17 mae Caerdydd wedi "colli” £86 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd oherwydd y gronfa a rhagwelir swm tebyg ar gyfer 2017/18.

3.            Heb gamau gweithredu, £450m miliwn y gallai'r colled posibl o ardrethi busnes Caerdydd dros y tymor Cyngor 5 mlynedd hwn fod. Nid yw dim Cyngor neu Ddinas fawr arall yn y DU yn colli cyfran mor uchel o’r ardreth annomestig genedlaethol y mae’n ei godi.

Mae’r Cyngor hwn hefyd yn nodi’r canlynol:

 

1.            Yn ogystal â’r costau sy’n gysylltiedig â bod yn Brifddinas Cymru, mae tua 80 mil o bobl sy’n cymudo bob dydd i weithio yng Nghaerdydd ond yn talu Treth Gyngor yn rhywle arall.

2.            Mae’r grant cynnal refeniw yn dyrannu £313 miliwn i Gaerdydd yn y flwyddyn bresennol, sy’n £860 ar sail fesul pen o'r boblogaeth – gan roi Caerdydd yn y 20fed lle allan o’r 22 cyngor yng Nghymru. Gellir ystyried mai dychweliad o’r ardreth annomestig genedlaethol wedi’i golli i’r gronfa yw rhan o’r grant hwn.

3.            Mae Cyngor Caerdydd yn buddsoddi cyfalaf ac amser swyddogion yn y gwaith o ddatblygu ein dinas a fydd yn cyflawni a chynyddu lefel yr ardreth annomestig genedlaethol a dderbynnir, ond mae’n annheg yn amlwg nad yw Caerdydd yn manteisio ar fudd ariannol y buddsoddiad hwn.

Mae’r Cyngor yn galw ar y Cabinet i wneud y canlynol:

 

Datblygu strategaeth allweddol ar gyfer negodi gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, gyda’r bwriad y bydd Cyngor Caerdydd yn derbyn rhan lawer mwy o’r ardreth annomestig genedlaethol y mae'n ei greu yn 2018/19 a thu hwnt. Dylid cyflawni hyn heb dderbyn gostyngiad digolledu yn y RSG.

 

Cynigiwyd gan:    Y Cynghorydd Rod McKerlich  

 

Eiliwyd gan:   Y Cynghorydd Thomas Parkhill