Eitem Agenda

Monitro Cyllideb - Adroddiad Mis 4

Penderfyniad:

RESOLVED: that

 

1.   the potential outturn position based on the first four months of the financial year be noted

2.   the allocations from the Specific Contingency Budgets to the Economic Development, Communities, Housing & Customer Services and Social Services Directorates as set out in this report be noted

 

3.   the requirement for all directorates currently reporting overspends as identified in the report to put in place action plans to reduce their projected overspends be reinforced

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet ddiweddariad am sefyllfa fonitro ariannol y Cyngor yn seiliedig ar bedwar mis cyntaf y flwyddyn, gan gynnwys yr alldro a ragamcenir  ar gyfer 2017-18 o’i gymharu â’r gyllideb a gymeradwywyd ym mis Chwefror  2017. Adroddwyd y bu gorwariant rhagamcanol gwerth £883,000 a oedd yn adlewyrchu’r straen ariannol a wynebwyd gan y Cyngor a diffygion mewn arbedion cyllidebol. Nodwyd bod camau’n cael eu cymryd gan gyfarwyddiaethau i ddatrys y sefyllfa.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.         y câi'r sefyllfa alldro bosibl ar sail pedwar mis cyntaf y flwyddyn ariannol ei nodi

 

2.         y câi'r dyraniadau arian o’r Cyllidebau Tu Cefn Penodol i Ddatblygu Economaidd, Cymunedau, Tai a Gwasanaethau Cwsmeriaid a’r Cyfarwyddiaethau Gwasanaethau Cymdeithasol y sonnir amdanynt yn yr adroddiad, eu nodi

 

3.         y câi’r gofyniad ar yr holl gyfarwyddiaethau sydd ar hyn o bryd yn cofnodi gorwario fel y nodir yn yr adroddiad roi cynlluniau gweithredu ar waith i ostwng y gorwario a ragfynegir, ei atgyfnerthu.

 

Dogfennau ategol: