Eitem Agenda

Gweithredu Uchelgais Prifddinas

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.            Cymeradwyo sefydlu a gweithredu 'Rhaglen Gyflawni Uchelgais Prifddinas’ pedair blynedd, gan gynnwys y projectau a’r mentrau a fydd yn cyflymu'r gwaith o foderneiddio gwasanaethau'r Cyngor ac arbed arian yn unol â blaenoriaethau’r Weinyddiaeth

 

2.            dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, i ddatblygu achos busnes ar gyfer cyflwyno trefniadau newydd a fydd yn sicrhau bod y Cyngor yn gweithio o safleoedd modern, cost-effeithiol ac addas at y diben;

 

3.            dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, i ddatblygu cynigion y Cyngor ar gyfer cyd-weithredu, gan gynnwys yr achos busnes ar gyfer darparu gwasanaethau gweithrediadol yn rhanbarthol;

 

4.            gweithredu rhaglen dreigl o Adolygiadau Hanfodol i sicrhau bod gwasanaethau’r Cyngor yn cael ei chyflunio yn y ffordd orau posibl;

 

5.            cymeradwyo dechrau adolygu gwasanaethau TGCH y Cyngor yn syth, gan gynnwys caledwedd, meddalwedd ac adnoddau, wedi arwain gan y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, er mwyn tanseilio'r gwaith llwyddiannus o weithredu agenda Digidol y Cyngor;

 

6.            awdurdodi’r Prif Weithredwr i ail-ddyrannu adnoddau staff o fewn y fframwaith cyllidebol ar gyfer 2017/18 i roi blaenoriaeth i’r cynigion a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet adroddiad a amlinellwyd trefniadau i gefnogi'r gwaith o gyflawni datganiad blaenoriaethau Uchelgais Prifddinas y Cabinet.Roedd yn yr adroddiad fanylion am raglen gyflawni pedair blynedd a rhaglen dreiglol o adolygiadau hanfodol i sicrhau bod gwasanaethau’r Cyngor yn cael eu cyflunio a’u moderneiddio’n briodol. Cylchredwyd y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad i’r Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.            Cymeradwyo sefydlu a gweithredu 'Rhaglen Gyflawni Uchelgais Prifddinas’ pedair blynedd, gan gynnwys y projectau a’r mentrau a fydd yn cyflymu'r gwaith o foderneiddio gwasanaethau'r Cyngor ac arbed arian yn unol â blaenoriaethau’r Weinyddiaeth

 

2.            dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, i ddatblygu achos busnes ar gyfer cyflwyno trefniadau newydd a fydd yn sicrhau bod y Cyngor yn gweithio o safleoedd modern, cost-effeithiol ac addas at y diben;

 

3.            dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, i ddatblygu cynigion y Cyngor ar gyfer cyd-weithredu, gan gynnwys yr achos busnes ar gyfer darparu gwasanaethau gweithrediadol yn rhanbarthol;

 

4.            gweithredu rhaglen dreigl o Adolygiadau Hanfodol i sicrhau bod gwasanaethau’r Cyngor yn cael ei chyflunio yn y ffordd orau posibl;

 

5.            cymeradwyo dechrau adolygu gwasanaethau TGCH y Cyngor yn syth, gan gynnwys caledwedd, meddalwedd ac adnoddau, wedi arwain gan y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, er mwyn tanseilio'r gwaith llwyddiannus o weithredu agenda Digidol y Cyngor;

 

6.            awdurdodi’r Prif Weithredwr i ail-ddyrannu adnoddau staff o fewn y fframwaith cyllidebol ar gyfer 2017/18 i roi blaenoriaeth i’r cynigion a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: