Cofnodion:
Cofnod rhif 6 CYNNIG PROJECT LLED-DDARGLUDYDD CYFANSAWDD
Ni fydd Atodiadau 1, 2, 3a, 3b, 4, 5a, 5b, 6a, 6b a 7 yr adroddiad hwn yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym mharagraffau 14 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Gwnaeth y Cabinet Rhanbarthol ystyried adroddiad gyda chynnig o'r sector preifat i fuddsoddi cyllid o’r Gronfa Fuddsoddi Ehangach i gefnogi datblygiad Clwstwr Diwydiant Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn y rhanbarth drwy sefydlu safle yn y rhanbarth ar gyfer cynhyrchu a manwerthu penigamp. Cafwyd hefyd gwybodaeth, cyngor a dadansoddiad o’r cynnig i alluogi penderfyniad ar y cynnig buddsoddi hwn ac eglurhad i'r Cabinet Rhanbarthol pam y byddai'r cynnig yn gofyn am greu Cerbyd Dibenion Arbennig i gael safle ac ymgymryd â gwaith cysylltiedig.
PENDERFYNWYD: yn amodol ar:-
(i) Gydymffurfiaeth â’r amodau a nodir yn y cyngor arbenigol allanol yn atodiadau cyfrinachol y brif adroddiad,
(ii) Dod i gytundeb ynghyd â Phenawdau Termau y cyfeirir atynt ym Mharagraffau a) a c) isod,
(iii) Penderfyniad ar y materion y cyfeirir atynt ym Mharagraff 10.3 o'r Atodiad 6(a) cyfrinachol (Cynnig Project Lled-ddargludyddion Cyfansawdd), a
(iv) Nodi, mewn perthynas ag un o’r materion y cyfeirir atynt ym Mharagraff 10.3 Atodiad 6(a) cyfrinachol (Cynnig Project Lled-ddargludyddion Cyfansawdd), bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RhCT) wedi cytuno, mewn egwyddor, i gynnig cyllid at ddibenion llif arian fel y nodir ym Mharagraff 31 yr Adroddiad, drwy'r dull mwyaf hyfyw a chost-effeithlon, ac wrth ystyried budd RhCT a Chynghorau eraill y Fargen Ddinesig ar yr adeg honno ac yn unol â Strategaeth Rheoli'r Drysorlys RhCT.
PENDERFYNWYD:
Y byddai’r Cabinet Rhanbarthol yn cefnogi datblygiad Clwstwr Diwydiant Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn y rhanbarth drwy sefydlu safle yn y rhanbarth ar gyfer cynhyrchu a manwerthu penigamp drwy:
a) Mynd i mewn i Gytundeb Penawdau Telerau gyda Llywodraeth Cymru ac yna'r trosglwyddiad ar gyfer prynu cyfleuster penodol;
b) Yn unol ag adran 2.4 y JWA, ymrwymo £38.4m o Gyfraniad y HMT i’r Gronfa Fuddsoddi Ehangach ar gyfer gwaith landlordiaid i’r cyfleuster y cyfeirir ato ym Mharagraff a), sefydlu’r adeiladau, gwaith ategol a chostau rheoli a goruchwylio cysylltiedig;
c) Mynd i mewn i gytundeb Penawdau Telerau ar gyfer les 11 mlynedd, ac yna caniatáu les (mewn perthynas â'r cyfleuster y cyfeirir ato ym Mharagraff a), gyda'r prydleswr arfaethedig, gyda phroffil rhentu cam wrth gam ac Opsiwn Prynu hyblyg;
d) Galluogi’r prif brydleswr i fynd i mewn i gytundeb is-lesu; a
e) Sefydlu gwobr uniongyrchol ar gyfer y datblygiad ac adeiladu’r cyfleuster.
Yn sgil hyn, caiff Argymhellion a) i e) eu nodi mewn mwy o fanylder yn yr adroddiad a'r atodiadau cyfrinachol i'r adroddiad.
Yna, PENDERFYNWYD:
f) Sefydlu, mewn egwyddor, Cerbyd Dibenion Arbennig i weithredu’r cynnig, byddai’r manylion penodol yn destun adroddiad pellach i’r Cabinet Rhanbarthol er cymeradwyaeth;
g) Cyn sefydlu Cerbyd Dibenion Arbennig, cytuno er dibenion parhad, bod Cyngor Sir Fynwy yn dal i weithredu fel Awdurdod arweiniol i symud y mater hwn ymlaen; a
h) Bod angen diwygio'r Cynllun Busnes Blynyddol 2017-2018 cyn cymeradwyo'r cynnig hwn; mae’r diwygiad wedi’i gymeradwyo a bydd yn cael ei adrodd yn ôl i gyfarfod nesaf y Cabinet Rhanbarthol i’w nodi.
Dogfennau ategol: