Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r canlynol:
· Fod ei Gynllun Datblygu Lleol wedi ymrwymo i gyrraedd shifft modal 50:50 rhwng teithiau a wneid gan geir a theithiau a wneir trwy gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2026.
· Canfu Arolwg Holi Caerdydd fod cyfran y teithiau i’r gwaith ar fws wedi gostwng 2% rhwng 2005 a 2015 o 12.7% i 10.7%.
· Mae’r weinyddiaeth Lafur ar fin torri’r amserlen i gael gorsaf fysiau canolog erbyn Rhagfyr 2017. Felly mae’n debygol na fydd gan Gaerdydd orsaf fysiau am o leiaf 3 blynedd.
· Argymhellodd yr adroddiad ar gais cynllunio cyfnewidfa drafnidiaeth y dylid “cyfyngu nifer y bysiau oedd yn defnyddio’r gyfnewidfa” fel dewis i leihau effaith ansawdd awyr y cynigion.
· Mae’n anodd iawn i deithwyr sy’n gadael Gorsaf Reilffordd Canolog Caerdydd i wybod pa fws i’w ddal i gyrraedd pen draw eu taith.
Felly mae'r Cyngor hwn yn galw am:
· Fwy o safleoedd Parcio a Theithio wedi eu lleoli yn dda ar lwybrau strategol i mewn i’r ddinas.
· Gorsaf fysiau canolog addas at y diben i gael ei adeiladu cyn gynted ag y bo modd.
· Gweithio gyda darparwyr bysiau i annog defnyddio bysiau mwy cyfeillgar i’r amgylchedd sy’n lleihau llygredd awyr.
· Gweithio gyda Network Rail i sefydlu gorsafoedd rheilffordd newydd yn Mynachdy, Sain Ffagan a Llaneirwg sy’n cysylltu’n dda â gwasanaethau bysiau.
· Gwell arweiniad o lawer i deithwyr posib sy’n defnyddio gwasanaethau bws Caerdydd.
· Gwell gwasanaeth trên ar y City Line, gan gynnwys mwy o gerbydau ar wasanaethau teithwyr a chyflwyno gwasanaeth ar y Sul.
Dylid paratoi adroddiad ar y mater i’r Weithrediaeth a/neu’r Cyngor ei ystyried fel sy'n briodol
Cynigiwyd gan: Y Cynghorydd Elizabeth Clark
Eiliwyd gan: Y Cynghorydd Nigel Howells
Dogfennau ategol: