Eitem Agenda

Cynnig 2

Yn nodi’r toriad sylweddol mewn termau real i gyllideb y Cyngor dros y 4 blynedd diwethaf, sef hyd at £120 miliwn o arbedion, ac ymhellach yn nodi bod hyn yn ganlyniad uniongyrchol i  strategaeth o gynni bwriadol a roddwyd ar waith gan lywodraeth dan arweiniad Ceidwadol Y DU.

 

Yn nodi oherwydd y strategaeth ariannol a ddilynwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru, bod effaith y torri ar wariant wedi bod yn sylweddol llai yng Nghymru nag yn Lloegr a’r Alban.

 

Yn croesawu’r ffaith nad yw’r setliad ariannol terfynol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Blwyddyn Ariannol 17/18 cynddrwg ag y rhagwelwyd, sydd wedi caniatáu buddsoddiad hanfodol mewn meysydd megis gwasanaethau cymdeithasol, glanhau’r strydoedd a phriffyrdd.

 

Yn diolch i’w gyflogeion am eu hymroddiad a’r gwydnwch a ddangoswyd ganddynt yng ngwyneb cynni na welwyd ei debyg, ac yn llongyfarch holl staff y Cyngor am eu gwaith caled, sydd wedi golygu gwelliannau nas gwelwyd o’r blaen o ran perfformiad, cyfraddau ailgylchu, canlyniadau addysg ac sydd wedi cynorthwyo Caerdydd i fod yn un o’r dinasoedd gorau yn Ewrop i fyw ynddi.

 

Ymrwymo i barhau i gefnogi ein staff trwy aros yn gyflogwr cyflog byw, drwy sicrhau bod pob aelod o staff yn cael eu trin â pharch a thrwy barhau i flaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen.

 

Yn ymrwymo i bwyso ar Lywodraeth Cymru i barhau i leddfu effaith lloriol cynni bwriadol llywodraeth San Steffan, er mwyn galluogi Cyngor Caerdydd barhâi i adeiladu ar gynlluniau a mentrau a wnaed dros y 5 mlynedd diwethaf. 

 

Cynigiwyd gan:    Cynghorydd Huw Thomas

 

Eiliwyd gan:   Cynghorydd Christopher Weaver

 

Dogfennau ategol: