Mae adroddiad diweddar gan Inrix, un o asiantaethau mwyaf blaengar y byd ar ddadansoddi traffig, wedi dadansoddi traffig a thagfeydd mewn dros 1000 o ddinasoedd ledled y byd – yr astudiaeth fwyaf o’i bath erioed.
Daeth ymchwilwyr i’r casgliad bod tagfeydd traffig yn cael mwy o effaith negyddol ar fusnesau yng Nghaerdydd nag mewn unrhyw ddinas arall yn y DU.
Adroddodd hefyd fod:
· Tagfeydd yn ystod y dydd i’w gweld yng Nghaerdydd 15% o’r amser
· Gyrwyr yn treulio 32 awr y flwyddyn ar gyfartaledd wedi eu dal mewn tagfeydd yn yr oriau brig.
Daw’r adroddiad hwn ar adeg pan fo Cynllun Corfforaethol 2017/19 yn tanlinellu rhagolygon cynnydd yn y boblogaeth o hyd at 26%, yr uchaf o blith unrhyw ddinas yn y DU ac ar adeg pan fo lefelau llygredd yn achos pryder gwirioneddol.
Mae’r Cyngor yn galw ar y weinyddiaeth nesaf i herio amcangyfrifon poblogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Caerdydd. Bydd hyn yn angen rheidiol yng nghyd-destun yr ymadawiad o’r UE sydd ar fin digwydd ac yn sgil hynny y rhyddhau o rwymedigaethau ei bolisïau ffiniau agored. Byddai asesiad newydd gan weithwyr proffesiynol o ragolygon twf poblogaeth yn rhoi ystyriaeth i’r ffactorau newydd a phwysig hyn.
Ymhellach mae’n galw am gael ailystyried y rhagolygon tai sy’n codi o’r rhagolygon poblogaeth hyn. Dylai unrhyw addasu ar broffwydo twf poblogaeth gael eu hadlewyrchu yng nghynlluniau’r ddinas i ddyroddi tir glas ar gyfer datblygu. Bydd hefyd yn cael effaith amlwg ar y defnydd ar gerbydau, llygredd a phwysau ar ein ffyrdd.
I orffen, mae’r cyngor yn gwrthod unrhyw gynnig i gyflwyno codi tâl am dagfeydd yn y ddinas. Byddai polisi o’r fath yn cael effaith negyddol ar lewyrch y ddinas ac yn rhwystro mewnfuddsoddiad ar adeg pan fydd y Fargen Ddinesig yn ceisio annog creu cyfoeth a thwf cyflogaeth ledled De Cymru.
Cynigiwyd gan: Y Cynghorydd David Walker
Eiliwyd gan: Y Cynghorydd Dianne Rees