Mae'r adroddiad hwn yn rhoi i'r Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y dangosyddion perfformiad corfforaethol ar gyfer yr Adran Addysg, ynghyd â'r Caerdydd 2020 - 'Anelu at Gynllun Ragoriaeth'.
(a) Y Cynghorydd Sarah Merry (Aelod Cabinet dros Addysg) fod yn bresennol, ac efallai yn dymuno gwneud datganiad;
(b) Nick Batchelar (Cyfarwyddwr, Addysg a Dysgu Gydol Oes) a Swyddogion o'r Gyfarwyddiaeth Addysg a fydd yn cyflwyno'r adroddiad a bod ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan yr aelodau; ac
(c) Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor
Bydd y ffordd ymlaen ar gyfer yr eitem hon yn cael ei ystyried ar ddiwedd y cyfarfod.
Cofnodion:
Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth ar berfformiad corfforaethol i’r Pwyllgor ar gyfer chwarter cyntaf 2015/16 a diweddariad ar Caerdydd 2020 – Anelu at Ragoriaeth. Byddai’r eitem yn cael ei thrafod mewn dwy ran, yr Adran Perfformiad Corfforaethol, ac yna Caerdydd 2020.
Cyfeiriwyd y Pwyllgor at Gerdyn Sgorio Chwarter 3 2016/17. Roedd gwelliant sylweddol yn amlwg ond roedd ychydig o bryder o ran y ffigyrau absenoldeb salwch.
Nododd y Swyddogion bod ffigyrau absenoldeb salwch yn uwch mewn timau arlwyo. Roedd yr holl reolwyr yn y maes hwnnw'n defnyddio’r Polisi Absenoldeb Salwch pan roedd y trothwyon yn cael eu cyrraedd.
Cafodd strategaeth Caerdydd 2020 ei lansio gyda phartneriaid ar 29 Mehefin 2016. Cadeiriwyd y Bwrdd Datblygu Addysg gan Rod Alcott. Roedd hwn yn fwrdd partneriaeth o dan Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd, ac roedd ganddo ffocws penodol ar addysg a llesiant plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd.
Roedd datblygu rhaglenni a llwybrau Arwain yn hanfodol, a chawsant eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru. Cyfeiriwyd at ddeilliannau delfrydol Caerdydd 2020, ynghyd â’r prif fesurau oedd ar waith.
Trafodwyd safle’r Consortiwm, gyda buddsoddiad parhaus yn cael ei roi i addysg er mwyn cefnogi’r adnodd.
Gwahoddwyd y Pwyllgor i holi cwestiynau.
Cyfeiriwyd y Pwyllgor at ddeilliannau delfrydol Caerdydd 2020 a’r prif fesurau, gyda chymorth anghenion dysgu ychwanegol ar sail ranbarthol ehangach.
Trafododd aelodau’r Pwyllgor y sefyllfa gyda lefelau salwch a’r amser y dylai plentyn aros i ffwrdd o’r ysgol pan roedd y salwch yn heintus.
Nododd y Swyddogion bod data absenoldeb salwch yn cynyddu. Roedd Polisi Llesiant Ysgolion Caerdydd ar waith i gefnogi hyn ynghyd â Pholisi Absenoldebau Salwch y Cyngor.
Roedd y Pwyllgor yn awyddus i weld y Data Dangosydd Perfformiad mewn perthynas â Phlant sy’n Derbyn Gofal. Mewn ymateb, rhoddodd y Swyddog sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai gwybodaeth ar Blant sy’n Derbyn Gofal yn cael ei darparu. Byddai tystiolaeth ar gael i gefnogi hyn fel rhan o Gaerdydd yn ategu ei swyddogaeth Rhiantu Corfforaethol.
Trafododd aelodau’r Pwyllgor dudalen 246 yr adroddiad gan holi pam nad oedd y data ar waelodlin y proffil Cyfnod Sylfaen newydd, a oedd yn asesu gallu plant wrth fynd i mewn i’r ysgol, ar gael o ystyried ei fod wedi'i gasglu am y tro cyntaf yn yr Haf?
Cadarnhaodd Nick Batchelar y byddai'r wybodaeth yn cael ei gwirio a'i hanfon ymlaen at y Pwyllgor.
Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ar wybodaeth plant nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant (NEET) ar gyfer 2014/15:
CYTUNWYD – Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor i’r Aelod Cabinet i gyfleu eu sylwadau a’u barn.
Dogfennau ategol: