a) Cynigion Drafft y Gyllideb 2017-18 – Trosolwg
(10.45am)
i. Gwahoddwyd y Cynghorydd Phil Bale, Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd a’r Cynghorydd Graham Hinchey, Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad, ac efallai y byddant yn dymuno gwneud datganiad;
ii. Bydd Christine Salter, Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau, yn rhoi cyflwyniad.
iii. Bydd Ian Allwood, Pennaeth Cyllid a Gareth Newell, Rheolwr Partneriaeth ac Ymgysylltu Cymunedol yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.
iv. Gwahoddwyd cynrychiolwyr o’r Undebau Llafur i’r cyfarfod i roi datganiad 5 munud ar y cyd.
v. Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor
b) Cynigion cyllidebol y Gyfarwyddiaeth Adnoddau
(11.45am)
i. Mae’n bosibl y bydd y Cyng. Graham Hinchey, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad yn dymuno gwneud datganiad ynghylch y gyllideb hon;
ii. Bydd Christine Salter, Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau, Philip Lenz, Prif Swyddog Adnoddau Dynol, ac Ian Allwood, Pennaeth Cyllid yn bresennol ar gyfer yr eitem hon;
iii. Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
Egwyl (12.30)
c) Cynigion cyllidebol Cyfarwyddiaeth Datblygu Economaidd (1.00pm)
i. Mae’n bosibl y bydd y Cynghorydd Bale, Arweinydd Cyngor Caerdydd, yn dymuno gwneud datganiad am y meysydd yn y gyllideb hon sydd yn ei faes llafur ac sy'n rhan o gylch gorchwyl y Pwyllgor hwn;
ii. Bydd Neil Hanratty, Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon;
iii. Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
d) Cynigion cyllidebol Cyfarwyddiaeth Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol (1.30pm)
i. Mae’n bosibl y bydd y Cynghorydd De’Ath, Aelod Cabinet dros Sgiliau, Diogelwch, Ymgysylltu a Democratiaeth, yn dymuno gwneud datganiad am y meysydd yn y gyllideb hon sy’n rhan o’i faes llafur ac sy’n rhan o gylch gorchwyl y Pwyllgor hwn;
ii. Bydd Davina Fiore, Cyfarwyddwr Llywodraethu a'r Adran Gyfreithiol, yn bresennol ar gyfer yr eitem hon;
iii. Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol: