Trosolwg Corfforaethol
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Graham Hinchey (Aelod
Cabinet - Gwasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad), Christine
Salter (Cyfarwyddwr, Adnoddau Corfforaethol a Swyddog Adran 151) ac
Alan Evans (RhG, Cyfrifyddiaeth) i’r cyfarfod.
Rhoddodd Christine Salter gyflwyniad i'r Aelodau yn
amlinellu'r pynciau canlynol:
- Setliad Terfynol
- Diweddariadau ar Ymgynghoriad ac Ar ôl
Ymgynghoriad
- Cyllideb Refeniw Drafft
- Rhagolygon Tymor Canolig
- Rhaglen Gyfalaf Drafft
Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau a sylwadau gan yr
Aelodau:
- Gofynnodd yr Aelodau a yw’r Rhagolygon Tymor Canolig
wedi newid gyda newid yn amrywiadau Llywodraeth. Dywedodd
Swyddogion, er bod y sefyllfa ychydig yn well eleni, y dylid bod yn
ofalus gan ei bod yn bosibl nad fydd mor dda yn
2018/19.
- Holodd yr Aelodau a ddylid cadw’r Mecanwaith Gwydnwch
Ariannol (MGA) sef £4 yn ôl yn hytrach na’i
defnyddio fel y disgrifiwyd, ond dywedwyd wrthynt fod £4m yn
y sylfaen ar gyfer y flwyddyn nesaf.
- Roedd pryderon gan yr Aelodau ynghylch leihau lefel yr arian
wrth gefn o £4m i £3m a dywedwyd wrthynt fod ymdrechion
wedi bod ers mis Chwefror 2016 i gynyddu cryfder yr
arbedion. Cyfeiriodd yr Aelodau at y wybodaeth am y
Statws Cynllunio y cyfeiriwyd ato yn y
Crynodeb Asesiad Risg o gynigion Arbed a’r cynlluniau manwl
ar gyfer £15.8m.
- Cyfeiriodd yr Aelodau at y defnydd o’r MGA a holon nhw a
ai ar gyfer ysgolion fyddai Amod Eiddo, ond dywedwyd wrthynt ei fod
i gael ei ddefnyddio ar gyfer arolygon amod eiddo ac adnewyddu to
Marchnad Dan Do Caerdydd.
Gwasanaethau Plant
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sue Lent ( Aelod Cabinet
– Blynyddoedd Cynnar, Plant a Theuluoedd a Dirprwy
Arweinydd), Tony Young, (Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol),
Irfan Alam (Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Gwasanaethau Plant), Christine
Salter (Cyfarwyddwr, Adnoddau Corfforaethol a Swyddog Adran 151 ac
Alan Evans (RhG, Cyfrifyddiaeth) i’r cyfarfod.
Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelod Cabinet i wneud datganiad ac
amlinellodd yr agwedd gadarnhaol ar y gyllideb hon er gwaethaf yr
arian yr oedd angen ei arbed.
Rhodd y
Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol, gyflwyniad i’r
Aelodau a chyfeiriodd at y dyraniad cyllideb net ychwanegol ar
gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol o £9.2m, post 44 ychwanegol
yng Ngwasanaethau Plant ac arbedion Gwasanaethau Cymdeithasol Plant
o £2.839m.
Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau a sylwadau gan yr
Aelodau:
- Holodd yr Aelodau am yr arbedion, sef £872,000, nad oedd
modd eu cyflawni o’r llynedd mewn perthynas â’r
Adolygiad Darbodus a Lleoliadau Allan o’r Sir a’r
arbedion eleni ar gyfer ailfodelu a cheisiwyd eglurhad ar y
gwahaniaeth rhwng yr Adolygiad Darbodus a’r ailfodelu.
Dywedwyd wrth yr Aelodau mai proses
gymorth busnes yw'r Adolygiad Darbodus na yw'n cyflawni arbedion;
mae'r ailfodelu'n cyfeirio at y Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd a
gwaredu biwrocratiaeth a’r defnydd o’r dull Arwydd
Diogelwch.
- Dywedwyd wrth yr Aelodau fod 44 o’r 59 o swyddi
ychwanegol newydd yn y Strategaeth Ataliol yng Ngwasanaethau Plant,
ac y bydd y staff hynny’n talu amdanynt eu hunain yn yr
hirdymor os byddant yn cyflawni, a fydd yn helpu i leihau'r twf
cyffredinol yn y gwariant.
- Roedd pryderon gan yr Aelodau y gallai cymryd amser i
recriwtio staff ychwanegol ac os yw pobl ifanc yn cael eu dychwelyd
o Leoliadau Allan o’r Sir, onid bwlch yn y lefelau
staffio? Dywedodd swyddogion eu bod yn trio sicrhau bod cyfliniad yn
cael ei gyflawni rhwng cyflogi staff ac arbedion.
- Ceisiodd yr Aelodau eglurhad o ran y gallu i arbed arian yn y
Ganolfan Adnoddau i Oedolion. Dywedodd swyddogion fod y timau wedi’u sefydlu a bod
gwaith ar y gweill.
- Gan gyfeirio at yr arbed - Menter Teuluoedd Mwy Diogel, holodd
yr Aelodau pa mor llwyddiannus y mae gwirfoddolwyr wedi bod yn y
gorffennol. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod nifer y gwirfoddolwyr yn
cynyddu’n raddol; maent yn cynnig arosiadau dros nos ac
arosiadau am gyfnodau hirach sy’n negyddu’r angen am
ofal Awdurdod Lleol yn yr achosion hynny.
Addysg
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Aelod
Cabinet, Addysg), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr, Addysg a Dysgu Gydol
Oes), Neil Hardee (Pennaeth Perfformiad, Adnoddau a Gwasanaethau
Addysg), Christine Salter (Cyfarwyddwr, Adnoddau Corfforaethol),
Alan Evans (RhG, Cyfrifyddiaeth) a Simon Williams (Cludiant
Teithwyr) i’r cyfarfod.
Rhodd
Neil Hardee gyflwyniad i’r Aelodau.
Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau a sylwadau gan yr
Aelodau:
- Yn dilyn cwestiwn, dywedwyd wrth yr Aelodau na fyddai ysgolion
cymunedol yn cael eu gwahanu. Maent wedi’u cynnwys yn y gwaith o ddylunio adeiladau
ysgol newydd.
- Holodd yr Aelodau, gan fod niferoedd mwy yn dod i mewn
i’r ddinas, a yw'r ysgolion yn y lle cywir, yn enwedig gan
gadw mewn cof y nifer o ddatblygiadau mawr sydd ar y
gweill.
Dywedodd swyddogion bod Gr?p
Rhanddeiliaid a Gr?p Dadansoddi Anghenion wedi'u ffurfio mewn
perthynas â Band B a fydd yn cyffwrdd ar y
CDLl.
Bydd angen cyfleusterau
addysg a bydd arian isadran 106 ar gael. Ymgysylltir â Phenaethiaid; maent yn gwybod eu
hardaloedd lleol a gwybod am ddewisiadau rhieni yn yr ardaloedd
hynny.
- Holodd yr Aelodau gyda Statws Dinas sy’n Ystyriol o
Blant fel gwariant hanfodol, a dywedwyd wrthynt mai penderfyniad a
arweiniwyd gan y Cabinet oedd e. Bydd y
fenter yn sicrhau gwerth a chyflyniad gwell.
- Ceisiodd yr Aelodau eglurhad ar le caiff y 7 swydd yn Staffio
Canolog eu colli a dywedwyd wrthynt, er ei bod yn anodd arbed
arian, y caiff swyddi gwag eu hystyried - i ffwrdd o wasanaethau'r
rheng flaen ac mae'r Tîm Derbyn hefyd wedi’i
adolygu.
- Gofynnodd yr Aelodau pa ysgol fydd â'r Uned Cyfeirio
Disgyblion. Dywedodd swyddogion, unwaith y mae’r gyllideb
wedi’i chwblhau, y cysylltir ag ysgolion o ofyn am
ddatganiadau o ddiddordeb.
- Holodd yr Aelodau am gallineb yr arbed o £100,000
o’r gyllideb ganolog sy’n cyfateb â cholli 3
swydd llawn amser yn y Tîm Lles Addysg ac a allen nhw, gyda
phrofiad a gwybodaeth sydd gan y swyddogion hynny, eu defnyddio i
gefnogi pobl nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant neu
gyflogaeth. Dywedodd swyddogion fod yr arbedion hyn yn hanfodol a bod
angen lleihau’r swyddi hyn.
- Cyfeiriodd yr Aelodau at yr Heriau sy’n wynebu’r
Consortiwm, yn enwedig mewn perthynas ag ysgolion uwchradd a
mynegon nhw bryderon am golli arian gan Challenge
Cymru. Dywedodd swyddogion fod £200,000 ychwanegol am
flwyddyn ar gyfer y cyfnod trawsnewidiol.
- Dywedwyd wrth yr Aelodau y bydd y cap 30% yn arwain at
ysgolion eu hunain yn gorfod arbed
£1.5m.
- Holodd yr Aelodau a fyddai cludiant yn cael ei ddarparu i
Ysgol Uwchradd y Dwyrain gan nad oes llwybr bws.
Dywedodd swyddogion y darperir cludiant os yw’r
person ifanc yn byw mwy na 3 milltir o’r ysgol, fodd bynnag,
ymgynghorir â Bws Caerdydd i weld a oes modd newid y
llwybr/llwybrau bws.
CYTUNWYD – bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Aelodau
Cabinet, y Cyfarwyddwyr a’r swyddogion perthnasol ar ran y
Pwyllgor yn diolch iddynt am fynychu’r cyfarfod ar 13
Chwefror ac i gyfleu arsylwadau'r Pwyllgor wrth drafod y ffordd
ymlaen.