Cynigiwyd gan: Y Cynghorydd Elizabeth Clark
Eiliwyd gan: Y Cynghorydd Robin Rae
Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r canlynol:
• Yn ôl Ystadegau Llywodraeth Cymru, mae tipio anghyfreithlon yng Nghaerdydd wedi cynyddu 59% yn 2015/16 (6,214 o ddigwyddiadau) o’i gymharu â’r llynedd. Roedd angen i Gyngor Caerdydd dalu £410,000 y llynedd er mwyn clirio’r tipio anghyfreithlon hwn, bron i chwarter o’r holl arian a wariwyd ar dipio anghyfreithlon yng Nghymru.
• Mae ffigurau tipio anghyfreithlon wedi’u gwaethygu o ganlyniad i gau Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Waungron Road yn Ebrill 2014
• Mae angen camau gweithredu brys er mwyn mynd i’r afael â phroblemau tipio anghyfreithlon Caerdydd
Felly mae'r cynnig hwn yn galw am y canlynol:
• Ysgubo strydoedd yn fwy, yn enwedig ar ôl diwrnodau casglu gwastraff
• Ailgyflwyno casgliadau eitemau swmpus am ddim yn llawn
• Camau gweithredu llym ar gyfer pobl sy'n tipio'n anghyfreithlon a'r rhai hynny sy'n dympio gwastraff
• Pwyso ar Lywodraeth Cymru am ganiatâd i godi dirwyon ar gyfer pobl sy’n tipio’n anghyfreithlon
• Mwy o gyflenwyr bagiau ailgylchu
• Cynyddu nifer y canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref fel y mae o leiaf 4 ledled y ddinas, gan gynnwys Heol Wedal.”
Dylid paratoi adroddiad ar y mater i’r Weithrediaeth a/neu’r Cyngor ei ystyried fel sy'n briodol"