Cynigiwyd gan: Y Cynghorydd Neil McEvoy
Eiliwyd gan: Y Cynghorydd Tariq Awan
1. Mae’r Cyngor hwn mewn egwyddor yn nodi’r canlynol:
i. y difrod amgylcheddol enfawr wedi'i gynllunio trwy Gynllun Datblygu Lleol Caerdydd.
ii. y gwrthddywediad rhwng rhagolygon rhanbarthol Polisi Llywodraeth Cymru a nodwyd a natur unigol cynllunio awdurdod lleol trwy gynlluniau datblygu lleol.
iii. y gwrthddywediadau rhwng nodau ac egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a nodwyd a’r realiti y bydd Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd yn ei gyflawni yn y Ddinas.
iv. yn enwedig mae’r Cyngor hwn yn nodi y bydd canlyniadau Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd yn mynd yn erbyn:
a) Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang
b) Cymru fwy iach, yn enwedig gan y rhagwelir na ddarperir gwelyau ychwanegol yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd
c) Cymru ffyniannus
d) Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu
e) Cymru sydd â chymunedau cydlynol
f) Cymru wydnwch
g) Cymru sy’n fwy cyfartal
2. Mae’r Cyngor hwn o’r farn nad yw Datblygu Lleol Caerdydd yn cyd-fynd â datblygu cynaliadwy:
i. Bydd dinistrio mannau gwyrdd a choetiroedd yn:
a) peryglu bywyd gwyllt
b) gwneud Caerdydd yn fwy tueddol i gael llifogydd
c) cynyddu ôl troed carbon Caerdydd
d) gwaethygu ansawdd awyr sydd eisoes yn wael
e) cynyddu nifer y ceir ar ffyrdd Caerdydd yn sylweddol, tra nad oes cynlluniau pendant i uwchraddio’r seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus
3. Mae’r Cyngor o’r farn glir bod angen ailystyried ffigurau'r boblogaeth a ddefnyddiwyd i gyfiawnhau twf tai cyn Refferendwm Brexit o ystyried y newid a ragwelir i'r polisi mewnfudo.
4. Mae’r Cyngor yn gofyn i swyddogion lunio adroddiad i’w gwblhau rhwng 4 Mai 2017 a diwedd Mehefin 2017, gyda goblygiadau ariannol llawn er mwyn defnyddio Adran 68 Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol i ofyn i Lywodraeth Cymru ddiddymu Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd.