Eitem Agenda

RHAGLEN PARTNERIAID HAWLIAU’R PLENTYN

Penderfyniad:

RESOLVED: that

 

1.            the invitation from Unicef UK to enter into a three-year partnership to deliver the Child Rights Partners Programme in Cardiff from April 2017 be accepted.

 

2.            Responsibility be delegatedy to the Director of Education and Lifelong Learning, in conjunction with Cabinet members for Early Years, Children & Families and Skills, Safety & Engagement, to lead the partnership arrangements to deliver the Child Rights Partners Programme.

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet adroddiad sy’n amlinellu partneriaeth tair blynedd i ymuno â hi gydag Unicef UK er mwyn darparu Rhaglen Partneriaid Hawliau'r Plentyn yng Nghaerdydd.  Lansiwyd y Rhaglen Partneriaid Hawliau’r Plentyn gan Unicef UK er mwyn ymgorffori hawliau dynol plant yng ngwasanaethau cyhoeddus y Deyrnas Unedig.  Mae'r ymagwedd ar gyfer Caerdydd yn cofleidio ymrwymiad clir y Cyngor i'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ac mae'n ceisio galluogi symudiad diwylliannol er mwyn sicrhau yr ystyrir hawliau plant ym mhob polisi a phenderfyniad y Cyngor, ac mae'n cynnwys nifer o fentrau ffocysedig sy'n ceisio sicrhau ymgysylltu â phlant a phobl ifanc.

 

 

PENDERFYNWYD

 

1.            derbyn y gwahoddiad gan Unicef UK i ymuno â phartneriaeth tair blynedd er mwyn darparu’r Rhaglen Partneriaid Hawliau’r Plentyn yng Nghaerdydd o fis Ebrill 2017.

 

2.            Caiff cyfrifoldeb ei ddirprwyo i’r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, ar y cyd ag Aelodau Cabinet ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar, Plant a Theuluoedd a Sgiliau, Diogelwch ac Ymgysylltu, er mwyn arwain trefniadau'r bartneriaeth a darparu Rhaglen Partneriaid Hawliau'r Plentyn.

 

 

Dogfennau ategol: