Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi adroddiad cynnydd i’r Pwyllgor ar y gwaith a'r camau a gytunwyd arnynt i fynd ar ôl argymhellion y Pwyllgor yn dilyn yr ymchwiliad yn 2015.
(a) Gwahoddwyd y Cynghorydd Sarah Merry (Aelod Cabinet dros Addysg) i wneud datganiad;
(b) Bydd Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes) a Jackie Turner (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Addysg a Dysgu Gydol Oes) yn cyflwyno’r adroddiad ac ar gael i ateb unrhyw gwestiynau;
(c) Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Aelod Cabinet, Addysg), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes) a Jackie Turner (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Addysg a Dysgu Gydol Oes) i’r cyfarfod.
Rhodd yr adroddiad y diweddaraf i’r pwyllgor ar weithredu argymhellion y Pwyllgor ar ôl ymateb cadarnhaol Aelodau'r Cabinet i'r adroddiad ymchwilio.
Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Merry i wneud datganiad a dywedodd bod newid mawr wedi bod ers cyflwyno'r panel penodiadau, mae safon ceisiadau'n cael eu derbyn wedi dangos ei fod wedi bod yn llwyddiannus. Hefyd erbyn hyn gofynnir i lywodraethwyr nodi set o sgiliau ar y ffurflen gais a gellir paru hyn ag ysgolion y mae angen y sgiliau hynny arnynt. Ychwanegwyd bod Gwasanaethau Llywodraethwyr yn gwneud gwaith da ynghylch yn.
Cydnabu’r Cyfarwyddwr Cynorthwy-ydd y gefnogaeth iddi gael gan Wasanaethu Llywodraethwyr wrth baratoi'r adroddiad. Rhoddwyd amlinelliad i aelodau o bob un o’r argymhellion yn yr adroddiad a’r camau nesaf.
Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau a sylwadau gan yr Aelodau ar yr adroddiad:
CYTUNWYD – Bod y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor yn ysgrifennu at yr Aelodau Cabinet yn cyfleu arsylwadau'r Pwyllgor wrth drafod y ffordd ymlaen.
Dogfennau ategol: