Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry (Aelod Cabinet
dros Addysg) a Nick Batchelar (Cyfarwyddwr, Addysg a Dysgu Gydol
Oes) i’r cyfarfod.
Dywedwyd wrth aelodau bod rhan gyntaf yr adroddiad hwn yn rhoi
adroddiad Perfformiad Corfforaethol y Gyfarwyddiaeth Addysg a Gydol
Oes ar gyfer Chwarter 2 2016/17 i'r Pwyllgor ar ôl iddo gael
ei ystyried gan y Cabinet ar 21 Tachwedd 2016
Rhoddwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Craffu Plant a Phobl
Ifanc sefyllfa o ran perfformiad gwaelodlin yn erbyn canlyniadau
y'u dymunir a phrif nodau strategaeth Caerdydd 2020 newydd ei
chyhoeddi, fel ar ddechrau'r flwyddyn academaidd 2016/17. Darparwyd
y waelodlin hon i gefnogi aelodau yn eu rolau o graffu ar
berfformiad y gwasanaethau Addysg a chanlyniadau ar gyfer plant a
phobl ifanc. Yn
ogystal, tynnodd yr adroddiad sylw at sut bydd perfformiad yn erbyn
y strategaeth yn cael ei lywodraethu a’i reoli.
Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Merry i wneud datganiad a
dywedodd fod llawer o ddangosyddion wedi gwella fel y maen
nhw’n uwch na chyfartaledd Cymru, mae gwelliannau'n cael eu
cyflawni'n gyflymach na gweddill Cymru, sy'n gadarnhaol
iawn.
Hefyd dywedodd fod mesur
lles emosiynol yn bwnc diddorol ac y byddai’n anodd mesur
canlyniadau hyn.
Dywedodd y Cyfarwyddwr fod gan adroddiad PISA nifer o
gafeatau, gan gynnwys rhybudd ar gymryd sylwadau eang gan ei fod yn
giplun mewn amser. Dywedodd y byddai'r canlyniadau ar gyfer Cymru yn arwain at
bryder go iawn, ac y byddai angen canolbwyntio ar
hyfforddi/arwain/llywodraethu; mae'n bwysig i wneud yn dda iawn ar
y rhan yn hytrach nag ymateb i ganlyniadau'r
adroddiad.
Nodwyd
bod strategaeth Caerdydd 2020 yn strategaeth lefel uchel gyda
chynlluniau gweithredu amrywiol yn sefyll o dani.
Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau a sylwadau gan yr Aelodau ar
Berfformiad Corfforaethol:
- Gan gyfeirio at ail-lunio, gofynnodd aelodau a oes unrhyw
anawsterau neu enghreifftiau o welliannau wedi
bod.
Dywedwyd wrth aelodau bod
llawer o newid a chynnydd wedi bod, un prif faes yw'r gwasanaeth
derbyn, bu ymgynghoriad ar dderbyniadau cyd-drefnedig; newid i
wybodaeth dderbyn a rhieni bod â'r hawl i arfer
dewisiadau.
- Cyfeiriodd aelodau at gyllid Ysbrydoliaeth i Waith a gofynnon
nhw am eglurhad ar hyn. Dywedodd swyddogion os defnyddir y cyllid hwn yna na fydden
nhw'n gallu lleihau elfennau cyllid eraill, felly penderfynwyd
peidio â mynd â'r cyllid Ysbrydoliaeth i Waith yn ei
flaen.
- Ceisiodd aelodau eglurhad ar pam bod 50% o ddisgyblion yn
derbyn Prydau Ysgol Am Ddim a pham nad yw'r un peth â’r
holl ddisgyblion eraill. Esboniodd swyddogion nad oes eisiau bwlch ond bod angen gosod
targedau sy’n uchelgeisiol ond cyraeddadwy; mewn rhai o
ysgolion mae’r bwlch yn gul iawn. Mae llawer o waith yn cael ei wneud gyda disgyblion
mewn caledi ariannol gan gynnwys ymyriadau, cymorth, tracio, cynnig
profiadau'r tu allan i’r ysgol na fyddent yn cael mynediad
atynt fel arall; mae’r holl bethau hyn yn helpu i
gulhau’r bwlch a chodi dyheadau.
- Nododd aelodau y byddai data disgyblion AAA yn rhan o ddata
disgyblion Prydau Ysgol Am Ddim ac y dylai hyn gael ei wahanu o'r
data ar gyfer y rhai hynny mewn caledi ariannol; dywedwyd
swyddogion eu bod yn gweithio gyda'r Fro ar ddarpariaeth AAA, nad
ydynt yn cyflawni’r arbedion y maent am eu cyflawni a bod
arbed wedi israddio; un prif ffactor yn y tymor canolig yw
ailfodelu darpariaeth yng Nghaerdydd i ddefnyddio adnoddau'n well i
fodloni’r angen.
- Gofynnodd aelodau am fwy o wybodaeth am y prif chwartel i weld
ein dyheadau; dywedodd swyddogion y caiff hyn ei roi trwy'r swyddog
craffu.
- Gofynnodd aelodau a yw’r gwelliannau’n gynaliadwy
a cheision nhw sicrwydd bod newidiadau’n
digwydd.
Dywedodd swyddogion y
cyflwynir yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol ym mis Ionawr, byddai
hyn yn edrych ar ysgolion mewn categorïau gwahanol a rhoi mwy
o wybodaeth; nodwyd bod y gwelliannau'n well ym maes Cynradd ar hyn
o bryd.
- Gofynnodd aelodau sut mae lefelau absenoldeb salwch yn
effeithio ar redeg yr adran; cytunodd swyddogion ei fod yn fesur
pwysig ond nad yw’r wybodaeth wrth law ond caiff ei rhoi i
aelodau; roedd swyddogion yn edrych ar sut mae absenoldeb yn cael
ei rheoli a’r broses dychwelyd i’r gwaith yn ogystal
â llesiant staff. Roedd aelodau yn ddiolchgar am y wybodaeth i ddilyn yn enwedig
mewn perthynas â chynnydd mewn timau
penodol.
Nodwyd na fesurir llesiant
yn hawdd a bod angen i ddyheadau fod yn gywir er mwyn i lesiant
wella.
Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau ar Strategaeth Caerdydd
2020:
- Gofynnodd aelodau sut byddai’r Cyngor yn rheoli’r
gwaith o gyflawni’r weledigaeth 2020. Dywedodd swyddogion y’i chyflawnir trwy’r
Bwrdd Datblygu Addysg sy’n cylch gwaith hirdymor; nid oes
bwrdd rheoli unigol ar gyfer y strategaeth hon; mae'r elfen
weithredol yn sefyll mewn meysydd amrywiol megis y
consortiwm/addysg/datblygu economaidd; darpariaeth AAA yn y Fro a
gydag Iechyd ac ati. Cyfrifoldeb uniongyrchol y Cyfarwyddwr yw
sicrhau bod yn gyfarwyddiaeth yn darparu yn hefyd sut i ddylanwadu
eraill trwy addysg uwch/Coleg Caerdydd a’r Fro; felly
mae’n agwedd a ystyrir.
- Gofynnodd aelodau a oes unrhyw welliannau yn y grwpiau Prydau
Ysgol Am Ddim/Plant sy’n Derbyn Gofal/Nad ydynt Mewn
Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant;
dywedodd swyddogion y byddai'r gr?p o ddisgyblion nad ydynt mewn
addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn is na'r llynedd, mae angen i
Blant sy’n Derbyn Gofal wella ac mae gwaith yn cael ei wneud
gyda Gwasanaethau Plant ar hyn; mae’r gwaith ar Brydau Ysgol
Am Ddim wedi’i drafod.
- Gofynnodd aelodau am fwy o wybodaeth am Wella’r
Amgylchedd Dysgu ac a oes modd cynnig y cymorth hwn mewn
gwirionedd. Dywedodd swyddogion eu bod yn dod i ddiwedd Band A yn y
rhaglen wella adeiladau ysgol; bu trafodaeth anffurfiol am fodel
ariannu ar gyfer Band B; mae swyddogion wedi cynnal arolwg gloywi
ar ystadau ysgolion a byddai gr?p rhanddeiliaid ysgol yn cael ei
sefydlu ym mis Ionawr er mwyn dadansoddi.
- Gofynnodd aelodau am eglurhad ar wybodaeth sylfaenol a
dywedwyd wrthynt fod rhywfaint o’r wybodaeth hon o 2014/15
gan nad yw Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi rhywfaint o wybodaeth tan
18 mis yn hwyrach.
- Trafododd aelodau ddileu lleoedd ysgol, nodwyd, pan fo rhieni
yn tynnu disgyblion o ysgolion am gyfnodau hir, fod angen edrych ar
y mater o leoedd yn cael eu cadw/dileu.
CYTUNWYD – Bod y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor yn
ysgrifennu at yr Aelodau Cabinet yn cyfleu arsylwadau'r Pwyllgor
wrth drafod y ffordd ymlaen.