Eitem Agenda

Adfywio Dumballs Road

Penderfyniad:

Appendices 2, 3, 4, 6 and 8 of this report are exempt from publication because they contain information of the kind described in paragraphs 14 and 21 of parts 4 and 5 of Schedule 12A to the Local Government Act 1972.

 

AGREED; that

 

 

1)    The Heads of Terms attached as Appendix 4 be approved.

 

2)    Authority be delegated to the Director of Economic Development in consultation with the Leader of the Council, the Cabinet Member for Corporate Services and Performance, the Corporate Director Resources, and the Director of Governance and Legal Services to:

 

i)       Conclude the acquisition of 8.5 acres of land at Dumballs Road as illustrated at Appendix 2 and in accordance with the Heads of Terms attached as Appendix 4.

 

ii)      Negotiate and conclude the acquisition of a further 4.1 acres of land at Dumballs Road as illustrated at Appendix 2 with the final cost of acquisition subject to allocated budgets and approval by an independent valuer.

 

iii)    Dispose of the former Depot Building at Bessemer Close to enable the relocation of a business from the Dumballs Road area as illustrated in the plan at Appendix 5 and in accordance with the independent valuation at Appendix 6.

 

3)    the receipt from the disposal of the former Depot Building at Bessemer Close be ring fenced to enhance the allocated capital budget being used to acquire the land at Dumballs Road outlined in this report and illustrated in Appendix 2.

 

4)    that the required level of capital allocation from the Central Enterprise Zone (CEZ) budget is brought forward from future years to the current financial year, as set out in Appendix 8.

 

Cofnodion:

Ni fydd Atodiadau 2, 3, 4, 6 na 8 yr adroddiad hwn yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym mharagraffau 14 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Trafododd y Cabinet adroddiad yn nodi prif bwyntiau'r cynnig i gaffael tir yn Dumballs Road er mwyn atynnu buddsoddiad sylweddol o'r sector preifat (Vastint) ar gyfer adfywio’r ardal trwy ddatblygiad defnydd cymysg, preswyl yn bennaf, gyda hyd at 2000 o gartrefi newydd (yn cynnwys tai fforddiadwy), a defnydd masnachol a chymunedol. Mae’r safle tua 40 erw o faint ac mae’n dir llwyd strategol cyfagos at ganol y ddinas.

 

Daeth Andrew Cobden, Rheolwr Gyfarwyddwr Vastint, i’r cyfarfod a rhoddodd grynodeb o’r cwmni a’i werthoedd.  Nod Vastint ydy cynnig cynlluniau a datblygiadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol hirdymor a chadarnhaol.  

 

PENDERFYNWYD: y dylid

 

 

1)    Cadarnhau Penawdau’r Telerau sydd wedi eu hatodi yn Atodiad 4;

 

2)    Dirprwyo’r awdurdod i Gyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad, Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau a Chyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol wneud y canlynol:

 

i)       Cwblhau caffael 8.5 erw o dir yn Dumballs Road fel y gwelir yn Atodiad 2 ac yn unol â Phenawdau’r Telerau yn Atodiad 4;

 

ii)      Trafod a chwblhau caffael 4.1 erw ychwanegol o dir yn Dumballs Road fel y gwelir yn Atodiad 2 a bydd pris terfynol y caffael yn dibynnu ar y cyllidebau a ddosrannir ac ar gadarnhad prisiwr annibynnol;

 

iii)    Gwaredu ar y cyn adeilad depo yn Bessemer Close er mwyn gallu adleoli busnes o ardal Dumballs Road fel y dengys yn y cynllun yn Atodiad 5 ac yn unol â’r gwerthiad annibynnol yn Atodiad 6;

 

3)    neilltuo’r arian a ddaw o waredu ar y cyn adeilad depo yn Bessemer Close er mwyn ychwanegu ar y gyllideb gyfalaf sydd wedi ei phennu ar gyfer caffael tir yn Dumballs Road fel y nodir yn yr adroddiad hwn ac y dengys yn Atodiad 2;

 

4)    y caiff lefel y cyfalaf a roddir gan gyllideb yr Ardal Fenter Ganolog ei dynnu ymlaen o'r blynyddoedd nesaf i'r flwyddyn hon fel y nodir yn Atodiad 8;

 

Dogfennau ategol: