Mae’r adroddiad hwn yn rhoi copi o Adroddiad Blynyddol drafft Teuluoedd yn Gyntaf 2015/16 i’r Pwyllgor i’w ystyried cyn ei gymeradwyo i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru ynghyd ag archwilwyr ifanc i gyflwyno casgliad o ganfyddiadau o’r adroddiad archwilio.
(a) Gwahoddwyd y Cynghorydd Sue Lent (Aelod Cabinet, Y Blynyddoedd Cynnar, Plant a Theuluoedd a Dirprwy Arweinydd) i wneud datganiad;
(b) Bydd Tony Young (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol), Angela Bourge a Ceri George yn cyflwyno’r adroddiad ac ar gael i ateb cwestiynau;
(c) Archwilwyr ifanc i gyflwyno casgliad o ganfyddiadau o’r adroddiadau archwilio;
(d) Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
Cofnodion:
Croesawodd y cadeirydd y Cynghorydd Sue Lent (yr Aelod Cabinet dros y Blynyddoedd Cynnar, Plant a’u Teuluoedd, a’r Dirprwy Arweinydd), Tony Young (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol), Angela Bourge (Rheolwr Gweithredol, Adnoddau), Ceri George (Rheolwr Projectau Gwella – Atal a Phartneriaethau), Lee Richards (Gweithiwr Cyfranogi) a Chloe Burrage (Arolygydd Arweiniol Iau) i’r cyfarfod.
Dangoswyd fideo i’r Aelodau dan y teitl ‘Young Inspectors of Families First' a baratowyd gan Gr?p yr Arolygwyr Ifanc gyda chymorth y Tîm Cynnwys Actif. Rhoddodd Chloe drosolwg o’r Gr?p i’r Aelodau, wedi iddi ddod yn rhan ohono yn y lle cyntaf drwy Teuluoedd Yn Gyntaf. Ar ôl hyfforddi, daeth yn Arolygydd Iau a bu’n rhan o archwiliad yng Nghanolfan Blant Trelái a Chaerau lle fel enghraifft o arfer dda y defnyddiwyd ffotograffau a ddangoswyd i blant bach i’w galluogi nhw i bwyntio at yr hyn oedd angen ei newid. Roedd hi hefyd wedi bod yn dyst i nifer o gyfweliadau ac roedd hi’n cefnogi pobl ifanc eraill i wneud yr un modd.
Hysbyswyd yr Aelodau bod rhai o’r arolygwyr ifanc yn sgil eu hoed erbyn hyn wedi symud ymlaen i Brifysgol a Choleg, ond llwyddwyd i gadw dau ohonyn nhw.
Cyflwynodd Ceri George yr adroddiad gan nodi y credir bod yr adroddiad yn dathlu'r gwaith da a wnaed ac yn rhoi cipolwg ar y gwahaniaethau y mae wedi ei wneud, ynghyd â gwybodaeth ynghylch pa newidiadau ’ gellir eu gwneud i wella’r gwasanaethau gaiff eu darparu.
Cafodd Aelodau wahoddiad i wneud sylwadau, gofyn cwestiynau neu geisio eglurhad pellach am y wybodaeth dderbyniwyd. Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:
Tra bod ymestyn y cytundeb yn fater i’r Cabinet, mae modd rhoi hysbysiad i ymestyn ac mae swyddogion wedi cadarnhau eu bod yn ymrwymedig i fwrw ati cyn gynted ag y bo modd heb gyfaddawdu ar uniondeb.
CYTUNWYD – Bod y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor yn ysgrifennu at yr Aelodau Cabinet, Cyfarwyddwyr a swyddogion perthnasol yn diolch iddynt am fynychu’r cyfarfod.
Dogfennau ategol: