Eitem Agenda

Chwarae Plant - Briffio Cynnydd

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar lafar i’r Pwyllgor ar weithredu model darparu newydd ar gyfer Chwarae Plant.

 

(a)   Bydd y Cynghorydd Peter Bradbury (Datblygu Cymunedol, Cwmnïau Cydweithredol a Mentrau Cymdeithasol) yn bresennol ac yn dymuno gwneud datganiad o bosibl;

 

(b)  Bydd Malcolm Stammers (Rheolwr Gweithredol, Hamdden a Chwarae) a darparwr gwasanaeth yn cyflwyno’r adroddiad ac ar gael i ateb cwestiynau’r Aelodau;

 

(c)   Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Peter Bradbury (Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cymunedol, Cwmnïau Cydweithredol a Mentrau Cymdeithasol), Malcolm Stammers (Rheolwr Gweithredol, Hamdden a Chwarae), Jane Clemence (Swyddog Cymunedau Actif, Hamdden a Chwarae) a Chris Mathews (Cymdeithas y Sgowtiaid) i’r cyfarfod.  

 

Gwahoddwyd yr Aelod Cabinet gan y Cadeirydd i wneud datganiad ac ynddo dywedodd ei fod wedi chwarae rhan ers peth amser bellach yn rhoi’r model newydd ar gyfer Chwarae Plant ar waith.  Mae Gr?p Sgowtiaid Pentwyn 1st wedi cyflwyno Adroddiad Adborth yn amlinellu eu profiad o gymryd rheolaeth dros, a chynnal a chadw Canolfan Chwarae Llanedern, oddi ar ddwylo’r Cyngor, cred ei fod yn asesiad cywir o’r profiad a dylid talu sylw i’r wybodaeth a ddarparwyd wrth symud ymlaen.  

 

Cynigiodd Chris Mathews o Gymdeithas y Sgowtiaid ei farn i’r Aelodau ar drosglwyddo’r Ganolfan i’r gr?p Sgowtiaid gan nodi ei bod yn broses hir a diffyg eglurder yn y lle cyntaf, ond unwaith i’r pwynt cyswllt yn y Cyngor gael ei sefydlu bod pethau wedi gwella.  Hysbyswyd yr Aelodau bod yr adeilad i agor Ddydd Gwener.

 

Rhoddwyd cyflwyniad i’r Aelodau gan Malcolm Stammers.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau a sylwadau gan yr Aelodau:

 

  • Gofynnodd yr Aelodau am gadarnhad at bwy y byddai Sefydliad y Sgowtiaid yn troi petai yna broblem gyda’r adeilad ac fe’u hysbyswyd bod yr adeilad wedi ei drosglwyddo gyda Phrydles Atgyweirio Lawn, ond y gallent wneud cais am gyllid grant pe byddent am wneud gwaith arall ar yr adeilad.

 

  • Holwyd i’r aelodau os bu newid o gwbl yn y niferoedd oedd yn defnyddio’r lle ac fe’u hysbyswyd ei bod hi ar hyn o bryd yn rhy gynnar i ddweud, fodd bynnag roedd niferoedd wedi disgyn; roedd yr ysbryd yn isel yn enwedig heb ganolfan i gyfarfod ynddi.
  •   Rhagwelir y bydd y niferoedd yn dyblu gydag agor y lleoliad newydd.
  • Trafododd yr aelodau ddefnyddio adnoddau ysgolion/cymuned ac y dylid gweithredu ysgolion ar ôl 4pm fel adnoddau cymunedol y gallai’r cyhoedd eu defnyddio.

 

  • Diweddarwyd yr aelodau ar drosglwyddiadau canolfannau chwarae eraill:

 

  • Trelái
  •  Mae Garddwyr Pentref Trelái ynghlwm â’r trosglwyddiad hwn, yn dilyn derbyn cymorth gyda’u cynllun busnes gan ACE.  Mae penawdau’r telerau wedi eu cytuno ac mae’r trosglwyddiad yn mynd rhagddo.  Hysbyswyd yr Aelodau mai prydles fyddai hon yn hytrach na Throsglwyddiad Ased Cymunedol;
  • Glan-yr-afon:  Cymdeithas Ddatblygu De Glan-Yr-Afon sydd wedi bod ynghlwm â’r trosglwyddiad hwn.  Mae Penawdau’r Telerau wedi eu cytuno ond mae mwy o waith ar ddiwydrwydd dyladwy yn mynd rhagddo ar hyn o bryd;

 

  • Adamsdown:
  •   Roedd Seren yn y Gymuned wedi mynegi diddordeb cychwynnol ond heb fynd ar ei ôl wedyn.  Gobeithir y bydd cyfleoedd eraill yn codi yn yr ardal gyda’r datblygiadau ehangach sy’n digwydd yno. 
  • Sblot:  Gofynnwyd i Cymunedau’n Gyntaf gynorthwyo’r rhai oedd ynghlwm wrth y cais hwn.

 

  • Llanrhymni:
  •  Mae The Foxy Club wedi mynegi diddordeb yn ddiweddar ac mae hyn dan ystyriaeth.
  • Grangetown: Cytunwyd ar Gynllun Busnes gyda meithrinfa Grangetown, gyda rhywfaint o fuddsoddiad cyfalaf i’r ganolfan.  Bydd defnydd deuol yma, ysgol feithrin gyda’r dydd a defnydd cymunedol gyda’r nos.  Mae posibilrwydd hefyd o adeiladu estyniad.

 

  • Holodd yr Aelodau am y sefyllfa bresennol o safbwynt y gefnogaeth oedd ar gael yn ystod y cyfnod pontio ac fe’u hysbyswyd bod cyllid ar gael ar gyfer 3 Swyddog Datblygu Cymunedol ond bod hwnnw wedi dod i ben ar ddiwedd mis Mawrth 2016. Roedd adnoddau wedi eu darparu i alluogi rhywfaint o gefnogaeth i barhau.
  •   Mynegodd yr Aelodau eu pryder fod y cyllid bellach wedi dod i ben cyn trosglwyddo’r holl Gynlluniau Chwarae gan nodi fod angen cefnogaeth ar y broses bontio o hyd.

CYTUNWYD – Bod y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor yn ysgrifennu at yr Aelodau Cabinet, y Cyfarwyddwyr a’r swyddogion perthnasol yn diolch iddynt am fynychu’r ar 18 Hydref 2016 ac i gyfleu arsylwadau'r Pwyllgor wrth drafod y ffordd ymlaen.

Dogfennau ategol: