Mae’r Cyngor hwn yn:
· Nodi bod cyflogau wedi gostwng yn sylweddol ers 2010, tra bod prisiau'n dal i gynyddu, sydd wedi rhoi pwysau ariannol cynyddol ar lawer o deuluoedd sy'n gweithio'n galed yng Nghaerdydd.
· Gwrthwynebu’r Torïaid yn ail-frandio'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn Gyflog Byw Cenedlaethol, er mwyn ceisio twyllo pobl i gredu eu bod yn mynd i dderbyn codiad cyflog.
· Dathlu bod y Cyngor Llafur hwn wedi talu Cyflog Byw gwirioneddol i’w holl gyflogeion ers mis Medi 2012, fel y’i diffinnir gan y Sefydliad Cyflog Byw. Ym mis Ebrill 2015, roeddem ymhlith y Cynghorau cyntaf yng Nghymru i dderbyn achrediad fel Cyflogwr Cyflog Byw, ac i annog pob contractwr sy'n gweithio i'r Cyngor i dalu cyflog byw i’w staff.
· Cydnabod bod llawer o gwmnïau a chyrff trydydd sector, o bob maint, ledled Caerdydd yn cefnogi eu staff drwy dalu Cyflog Byw Gwirioneddol.
Felly, rydym yn galw ar:
(1) y Cyngor hwn i hybu Caerdydd fel Dinas Cyflog Byw drwy annog a chefnogi busnesau ac elusennau sydd eisiau cymryd rhan yng nghynllun y Sefydliad Cyflog Byw; ac
(2) Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at Lywodraeth Llafur Cymru i ymchwilio i ffyrdd o annog cyflogwyr eraill ledled y Ddinas i gytuno i dalu Cyflog Byw Gwirioneddol.
Cynigwyd gan: Y Cynghorydd Darren Williams
Eiliwyd gan: Y Cynghorydd Heather Joyce