Mae'r Cyngor yn nodi:
· Bod nifer o wersylloedd teithwyr anawdurdodedig wedi’u sefydlu ym mharciau a mannau agored Cyngor Caerdydd.
· Pan fo Cyngor Caerdydd yn cyflwyno hysbysiad troi allan i wersylloedd anawdurdodedig, mae’r hysbysiad yn gwahardd pobl rhag dychwelyd i fan agored neu barc y Cyngor y maent ynddo ar y pryd am dri mis yn unig.
· Mae rhai gwersylloedd anawdurdodedig yn gadael sbwriel ac yn difrodi’r parc neu’r man agored y maent ynddo. Yna, mae’n rhaid glanhau a thrwsio hyn, fel arfer ar gost i drethdalwyr.
Mae’r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet i:
1. Archwilio’r hysbysiad cyfreithiol a gyflwynir i wersylloedd anawdurdodedig yng Nghaerdydd, gyda’r bwriad o ehangu'r hysbysiad i’w hatal rhag dychwelyd i unrhyw barc neu fan agored ym mherchnogaeth y Cyngor.
2. Ymchwilio a oes modd ehangu’r hysbysiad i atal dychwelyd am gyfnod o chwe mis.
3. Ystyried gweithdrefn i gymryd camau sifil i adfer colled y Cyngor.
Cynigwyd gan: Y Cynghorydd Dianne Rees
Eiliwyd gan: Y Cynghorydd Adrian Robson