Mae'r adroddiad hwn yn galluogi i'r Pwyllgor fonitro perfformiad y gwasanaeth a chwestiynu cynnydd y gwasanaeth o ran bodloni ei dargedau cytunedig.
(a) Bydd y Cynghorydd Sue Lent (Aelod Cabinet, Y Blynyddoedd Cynnar, Plant a Theuluoedd a Dirprwy Arweinydd) yn bresennol ac efallai y bydd am wneud datganiad;
(b) Bydd Tony Young (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol) ac Irfan Alam (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Plant) yn cyflwyno'r adroddiad a byddant ar gael i ateb cwestiynau;
(c) Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeiryd Tony Young, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, i’r cyfarfod i gyflwyno’r adroddiad.
Dywedwyd wrth Aelodau y bydd y newidiadau yn y dangosyddion perfformiad a chyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeihasol a Llesiant (Cymru) yn ei gwneud yn anodd i roi trosolwg llawn o ran perfformiad, fodd bynnag, mae’r alldro blynyddol wedi dangos yn gyffredinol bod y duedd yn un bositif ac y gwnaed cynnydd mewn nifer o feysydd straegol allweddol er bu peth diffyg mewn perthnas a recriwitio a chadw gweithwyr cymdeithasol plant. Mae gwaith eisioes yn mynd rhagddo i ystyried cyfleoedd ar gyfer hyfforddian o fewn y Cyngor.
Gwahoddwyd y Pwyllgor i wneud sylwadau, codi cwestiynau neu ofyn am eglurhad yn seiliedig ar y wybodaeth dan sylw.
Dyma grynodeb o’r trafodaethau hynny:
· Dywedwyd wrth Aelodau bod argyfwng yn y maes gofal yng Nghymru a Lloegr ac efallai y dylid gwneud cais i Lywodraeth Cymru am swm o arian arbennig i Gaerdydd yn sgil y twf yn y boblogaeth.
CYTUWYD: Y bydda’r Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet perthnasol i gyfleu’r sylwadau a drafodyd gan y Pwyllgor oran y ffordd ymlaen.
Dogfennau ategol: