Croesawodd y Cadeirydd y
Cynghorydd Sarah Merry (Aelo Cabinet dros Addysg), Nick Batchelar
(Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes) Suzanne Scarlett a Natalie
Stork i’r cyfarfod.
CAERDYDD 2020
Dangoswyd y DVD ar gyfer
Digwyddiad Lansio Caerdydd 2020 a hefyd sioe sleidiau yn cynnwys
ffotograffau a dynnwyd yn y lansiad ar 29 Mehefin 2016.
Dywedwyd wrth Aelodau y bydd
cyflwyniad yng nghyfarfod y pwyllgor ym mis Rhagfyr yn rhea
gwybodaeth o ran sut y caiff perfformiad ei reoli yn erbyn y
strategaeth honno.
Gwahoddwyd y Pwyllgor i wneud
sylwadau, codi cwestiynau neu ofyn am eglurhad yn seiliedig ar y
wybodaeth dan sylw.
Dyma grynodeb o’r
trafodaethau hynny:
- Dywedwyd wrth Aelodau
bod y DVD ar gael ar wefan y Cyngor ac ar YouTube.
- Gofynnodd Aelodau am
wybodaeth o ran ba fusnesau oedd yn bresennol yn y digwyddiad a
dywedwyd wrthynt bod cynrychiolwyr o Principality, Aldi, Lloyds, Da
Vinci, Wilmot Dixon a Chlwb Criced Morgannwg yn bresennol ymysg
eraill. Bydd Aelodau yn cael yr holl
fanylion am hyn.
ADRODDIAD
PERFFORMIAD CORFFORAETHOL CHWARTER 1 A CHYFLWYNO CANLYNIADAU
YSGOLION
Gwnaeth y Cynghorydd Merry
ddatganiad i’r Pwyllgor a oedd yn nodi y bu newyddion da o
ran canlyniadau ysgolion dros yr haf.
Mae canlyniadau Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 yng Ngaerdyd
yn gwella’n gyflymach nag unrhyw ardal arall yng
Nghymru. Mae pryderon o hyd o ran y
gwahaniaeth rhwng perfformiad disgyblion sy’n cael Prydau
Ysgol am Ddim.
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr y
canlyniadau dros dro ar gyfer Chwarter 2 Blwyddyn Academaidd
2015/16 i Aelodau hefyd.
Gwahoddwyd y Pwyllgor i wneud
sylwadau, codi cwestiynau neu ofyn am eglurhad yn seiliedig ar y
wybodaeth dan sylw.
Dyma grynodeb o’r
trafodaethau hynny:
- Holodd Aelodau beth
sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael a nifer y bobl
ifanc nad ydynt yn symud ymlaen i gyflogaeth, addysg neu
hyfforddiant. Dywedodd Swyddogion mai
un o amcanion y cynllun yw atal pobl ifanc rhag dod yn bobl ifanc
nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) ar ol
blwyddyn 11. Mae’r mwyafrif
helaeth o’r garfan 3000+ wedi dechrau mewn addysg, cyflogaet
neu hyfforddiant yn llwyddiannus, er mai’r dyddiad cau ar
gyfer cadarhau’r wybodaeth honno yw 31 Hydref
2016.
Dywedwyd wrthynt hefyd bod mwy o weithwyr ieuenctid ar gael
erbyn hyn o ganlyniad i gais llwyddiannus Gronfa Gymdeithasol
Ewrop; mae’r dulliau cyfathrebu wedi gwella; mae gweithwyr
cynnwys ieuenctid yn fwy gweladwy ac wedi bod yn perfformio’n
dda.
- Dywedwyd wrth Aelodau
bod adolygiad o ddarpariaeth nad yw’n ddarpariaeth ysgol
wedi’i gomisiynu ac y bydd adroddiad ar hyn yn cael ei
gyflwyno’n ddiweddarach yn ystod y flwyddyn.
- Holodd Aelodau am
natur Dinas sy’n Ystyrlon o Blant. Cyflwynodd Swyddogion
wybodaeth am y Rhaglen Partneriaid Hawliau’r Plentyn; dull
partneriaeth sy’n gweithio i wella’r ddarpariaeth i
Blant a Phob Ifanc mewn ymdrech i’w cynnwys yn well. Bydd
gofyn nodi partneriaid penodol, bydd rhaid cael ymrwymiad
gwleidyddol a bydd angen gwneud cais mewn ymateb i’r
Prospectws a gaff ei gyhoeddi gan UNICEF maes o law.
- Holodd Aelodau
p’un ai a yw’r Fframwaith Perfformiad Corfforaethol
newydd yn ddigonol i reoli perfformiad. Atebodd Swyddogion y
byddai’n well petai modd gwneud gwaith addasu pellach
arno.
Mae’r fformat
adroddiad hwn yn gofyn am lawer o naratif ac nid yw’n manylu
ar y meysydd hynny lle ceir tangyflawniad o hyd.
- Cyfeiriodd Aelodau at
lefelau absenoldeb salwch. Cadarnhaodd
Swyddogion y cafwyd sawl achos o salwch tymor hir sy’n gallu bod yn anodd mynd i’r afael
ag o, fodd bynnag, caiff hynny ei fonitro’n
rheolaidd. Nid oedd Swyddogion
o’r farn fod y ffigurau a gyflwynwyd yn amlygu’r ffaith
bod baich gwaith staff yn rhy fawr.
- Gofynnodd Aelodau am
wybodaeth o ran p’un ai a fyddai’r oedi mewn cysylltiad
ag agor Ysgol Gynradd Howardian yn effeithio ar yr amserlen ar
gyfer agor y ddwy ysgol gynradd newydd arall, ac os felly, beth
fyddai’r oblygiadau o ran y costau. Dywedwyd wrth Aelodau y rhagwelir y bydd oedi fodd
bynnag, mae’r oedi hwnnw yn golygu gwell gwerth am arian ac
na fydd o unrhyw anfantais.
- Gofynnod Aelodau beth
fydd yn digwydd petai Ysgolion Cynradd yn methu a bwrw targedau
presenoldeb a dywedwyd wrthynt nad oes modd rhagweld ar hyn o bryd os caiff dyfarniad Ynys
Wyth effaith sylweddol.
CANLYNIADAU
- Nododd Aelodau y
wybodaeth a ddarparwyd mewn perthynas a Dangosydd Pynciau Craidd
Cyfnod Allweddol 2 gan holi am y data sy’n sail iddynt.
Dywedodd Swyddogion er bod targedau y seiliedig ar garfanau mae
gofyn delio a niferoedd mawr ohonynt. Mae’r targedau yn
fwriadol uchelgeisiol wrth ddefnyddio adoddau Ymddiriedolaet y
TeuluFisher. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar grynhoi targedau lefelau
disgyblion.
- Yn y Cyfnod Sylfaen,
nododd Aelodau mai’r maes gwanaf yw Iaith, Llythrennedd a
Chyfathrebu a dywedwyd wrthynt, gan gyfeirio’n benodol at
ddatblygiad iaith, y dylent fod yn ymwybodol o’r gwaith
sy’n cael ei wneud gan Dechrau’n Deg a’r athrawon
teithiol sy’n hyfforddi ac yn rhoi cymorth i staff lleoliadau
gofal plant.
- Roedd Aelodau yn
pryderu o hyd bod perfformiad bechgyn yn dal i fod yn is na
pherfformiad merched gan ofyn a oes modd priodoli’r bwlch i
unrhyw beth penodol. Dywedwyd wrth
Aelodau bod gwaith ymchwil yn dal i fynd rhagddo fodd bynnag bod
angen dadansoddi’r wybodaeth yn fanwl gwir ac mai’r
gred yw mai’r’r Consortiwm ddylai fod yn gwneud
hynny.
- Gofynodd Aelodau beth
yw barn swyddogion am Benaethiaid yn cymryd cyfrifoldeb am fwy nag
un ysgol. Dywedod Swyddogion y dylid
anno hynny a’u bod yn credu mewn Ffedereiddio Ysgolion, fodd
bynnag mae’n rhaid eu trin yn ofalus.
- Trafododd Aelodau
ganlyniadau lefelu mewn ysgolion a’r profion Rhifedd a
LLythrenned a ph’un a ddylai’ gyfradd gwella fod y
gymesur a dywedwyd Swyddogion wrthynt eu bod yn mesur pethau
gwahanol. Mae pryderon o ran cymedroli
wedi’u codi gyda’r Consortiwm.
CYTUNWYD: Y byddai’r Cadeirydd, ar ran y
Pwyllgor, yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet perthnasol yn diolch
iddi hi a’r swyddogion am ddod i’r cyfarfod a
chyfleu’r sylwadau a drafodwyd gan y Pwyllgor o ran y ffordd
ymlaen.