Penderfyniad:
RESOLVED; that
1. the issues set out in this report be noted and it be agreed that public consultation take place on the proposal to apply for a suspension of Right to Buy/Acquire.
2. a further report setting out the results of the consultation and proposed way forward be brought to a future meeting of the Cabinet.
Cofnodion:
Ar ddechrau’r eitem datganodd y Cynghorydd Graham Hinchley ddiddordeb personol a rhagfarnus am fod ei wraig wedi ei chyflogi gan Gymdeithas Dai. Gadawodd y Cyng. Hinchley’r cyfarfod ac ni fu’n rhan o’r penderfynu.
Ystyriodd y cabinet adroddiad yn amlinellu’r bwriad o ymgynghori’n gyhoeddus er mwyn gwneud cais i atal yr Hawl i Brynu. Ar hyn o bryd mae gan denantiaid Cyngor yr Hawl i Brynu eu tai eu hunain, rhoddodd Mesur Tai (Cymru) 2011 y gallu i awdurdodau tai lleol wneud cais i Weinidogion Cymru am gyfarwyddyd i atal yr Hawl i Brynu/Caffael mewn mannau o wasgedd tai am gyfnod o hyd at 5 mlynedd. Daw adroddiad pellach gerbron y Cabinet yn amlinellu canlyniad yr ymgynghoriad.
PENDERFYNWYD;
1. y caiff y materion a drafodwyd yn yr adroddiad hwn eu nodi ac y cytunir bod ymgynghoriad cyhoeddus i ddigwydd ar y cynnig i wneud cais i atal yr Hawl i Brynu/Caffael.
2. y caiff adroddiad pellach yn nodi canlyniadau’r ymgynghoriad a chynnig ffordd ymlaen ei ddwyn gerbron y Cabinet mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Dogfennau ategol: