Mae’r Cyngor hwn yn:
· Cydnabod, er fod Cymru a Lloegr ar y cyfan wedi pleidleisio dros dynnu’r DU o’r UE, bod 60% o bobl Caerdydd wedi pleidleisio dros aros yn rhan o’r Undeb;
· Cydnabod y fantais enfawr, yn gymdeithasol ac yn economaidd, a gafodd Caerdydd o fod yn rhan o'r UE;
· Nodi bod Caerdydd yn parhau i fod yn brifddinas Ewropeaidd gynhwysol, groesawgar sy’n edrych tua’r dyfodol.
Felly, mae’r Cyngor hwn yn:
· Galw ar y Cyngor i barhau i greu a chynnal perthnasau â phobl cyfatebol yn Ewrop er mwyn meithrin y cydweithredu a’r nerth rydym yn eu cael o weithio gyda’n cymdogion agosaf;
· Galw ar Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at Stuttgart a Nantes er mwyn eu sicrhau ein bod yn ymroddgar i’n perthynas â nhw fel ein chwaer-ddinasoedd y Ewrop;
· Galw ar y Prid Weinidig i weithio â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Llywodraethau Lleol Cymru yn cael cynrychiolaeth lawn mewn unrhyw drafodaethau'r UE ynghylch ein perthynas â'r Undeb yn y dyfodol fel na fydd Caerdydd yn dioddef effaith wael y datblygiadau.
Cynigiwyd gan: Y Cynghorydd Michael Michael
Cefnogwyd gan: Y Cynghorydd Ben Thomas