Noda’r Cyngor :
· Fod costau gwyliau yn ystod cyfnod traddodiadol gwyliau haf ysgolion yn anghyfartal o ddrud a bod hyn yn effeithio ar deuluoedd yn ein dinas;
· Fod teuluoedd am gadw at wyliau haf ysgolion, ond gall cost ormodol gwyliau yn ystod y cyfnodau hynny fod yn rhwystredig, sy’n golygu bod rhaid i deuluoedd ddewis rhwng peidio â chymryd gwyliau o gwbl neu gymryd eu plant o’r ysgol yn ystod y tymor;
· Fod cynghorau eraill yn y DU wedi cymryd camau i graffu ar drefniadau tymor yr ysgol fel y maent er mwyn cwtogi gwyliau’r haf ac ychwanegu wythnos o wyliau ar rhyw amser arall yn y flwyddyn ysgol er mwyn i deuluoedd allu mynd ar wyliau’n rhatach.
Penderfynodd y Cyngor ofyn i Bwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc wneud dadansoddiad manwl o’r mater ac argymell opsiynau posibl ar gyfer patrymau’r tymhorau yn y dyfodol er mwyn i’r Cabinet ystyried hynny cyn etholiadau lleol mis Mai 2017.
Cynigiwyd gan: y Cynghorydd Ed Bridges
Cefnogwyd gan: y Cynghorydd Bill Kelloway
Dogfennau ategol: